Maes Awyr Caerdydd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 8 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:19, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Ydw, yn sicr. Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig. Mae Peter Phillips yn gwneud pwynt pwysig iawn hefyd. Ond buaswn yn ychwanegu at unrhyw ffocws ar nwyddau na allwch ddatblygu cludiant nwyddau heb gael teithwyr hefyd. Felly, mae'n rhaid i chi ddatblygu llwybrau teithwyr er mwyn sicrhau y gellir cludo nwyddau hefyd. Felly, buaswn yn rhybuddio rhag unrhyw newid yn y ffocws i gludo nwyddau'n unig, ac yn awgrymu mai'r ffordd orau o dyfu'r maes awyr yw sicrhau ein bod yn cynyddu niferoedd teithwyr, yn ogystal â chyfleoedd i fusnesau sy'n gysylltiedig â chludo nwyddau.