Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 8 Mai 2019.
Unwaith eto, adroddiad arall sy'n ddeunydd darllen annymunol os ydych yn byw yn sir Benfro, ac mae'n ein hatgoffa eto fod sir Benfro'n dal i lusgo y tu ôl i ardaloedd eraill. Ac ni ellir gorbwysleisio difrifoldeb yr allgáu digidol hwn. Yn anffodus, gwelir un o'r enghreifftiau mwyaf difrifol a dybryd o ran y ddarpariaeth band eang yn sir Benfro yn Ysgol Llanychllwydog yng ngogledd sir Benfro, sy'n dal i fod yr unig ysgol yn y wlad gyfan heb fand eang. Yn gynharach eleni, dywedodd pennaeth yr ysgol, Mrs Lawrence, ac rwy'n dyfynnu:
Mae'n bwysig i mi fod gan blentyn yr un hawliau a mynediad at addysg lle bynnag y bo.
Cau'r dyfyniad. Ac mae hi'n llygad ei lle. Er fy mod yn derbyn bod lleoliad yr ysgol yn creu her arbennig, does bosibl na ddylai'r ffaith mai hon yw'r unig ysgol yng Nghymru heb fand eang fod yn ysgytwad. Mae'n gwbl annerbyniol fod dysgwyr o dan anfantais yn 2019 yn syml oherwydd nad oes gan yr ysgol y maent yn ei mynychu ddarpariaeth band eang digonol. Fodd bynnag, rwy'n deall bod rhywfaint o gynnydd yn cael ei drafod ar hyn o bryd, ac efallai, wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, y gallai'r Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar unwaith i sicrhau bod y problemau yn Ysgol Llanychllwydog yn cael sylw cyn gynted ag y bo modd. Os na chymerir camau brys i fynd i'r afael â'r problemau hyn, bydd dysgwyr sy'n byw mewn ardaloedd gwledig fel sir Benfro yn parhau i lusgo ar ei hôl hi, a bydd hyn yn effeithio ar addysg plant.
Nawr, fel y dywedais yn gynharach, rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatrys problemau cysylltedd digidol Cymru a bod arian ychwanegol wedi'i ddyrannu i fynd i'r afael â'r cymunedau hynny nad ydynt yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig fod pob cymuned ledled Cymru yn teimlo eu bod yn rhan o'r broses a bod rhyngweithio iachach gyda darparwyr gwasanaethau, ac felly rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn gwneud popeth yn ei allu i hwyluso hyn.
Nawr, fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog, rwyf wedi clywed pryderon gan bobl yn sir Benfro sy'n credu o ddifrif nad yw darparwyr gwasanaethau'n gwneud digon i helpu cymunedau i gael gwell gwasanaethau band eang, ac mae hynny'n destun pryder mawr. Yn ddiweddar, anfonodd un o fy etholwyr y neges hon ataf, ac rwy'n dyfynnu: 'Mae pawb ohonom yn dioddef o hyd gyda chyflymderau lawrlwytho rhwng 1 Mbps a 1.5 Mbps. Yn achlysurol iawn gall gyrraedd yn agos at 2 Mbps o gyflymder lawrlwytho. Rydym i gyd yn teimlo ein bod wedi cael ein hanghofio'n llwyr. Mae banciau lleol yn cau, mae siopau'n cau. Mae ein cyflymder rhyngrwyd mor wael fel ei bod weithiau'n anodd, os nad yn amhosibl, defnyddio'r rhyngrwyd i fancio ar-lein. Rhaid inni yrru ymhellach ac ymhellach i ddefnyddio banciau, siopau a gwasanaethau eraill sydd ar gael ar-lein. Roeddem i fod i gael mesurydd clyfar wedi'i osod, a gyrrodd technegydd o Lanelli draw i osod un. Nid oedd digon o signal symudol na chysylltedd rhyngrwyd i wneud i hyn weithio. Nid yw ein ffonau symudol yn gweithio yma oni bai eu bod wedi eu gosod i dderbyn galwadau rhyngrwyd Wi-Fi.' Cau'r dyfyniad.
Credaf ei bod yn deg dweud bod ymgysylltiad a chymorth gwell i gymunedau gwledig yn hanfodol bellach er mwyn symud Cymru yn ei blaen, ac mae gan ddarparwyr gwasanaethau swyddogaeth i gryfhau eu perthynas â chymunedau lleol. Felly, estynnaf wahoddiad i'r Dirprwy Weinidog ddod i sir Benfro, i gyfarfod â phobl yr effeithir yn uniongyrchol arnynt gan wasanaethau band eang is na'r safon, fel y gall ddweud wrthynt yn uniongyrchol beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'u pryderon penodol.
Yn ôl yr hyn a ddeallaf, dim ond 375 eiddo yn sir Benfro fydd yn rhan o'r prosiect Superfast 2 ar hyn o bryd. Daw'r cyhoeddiad siomedig yn erbyn cefndir y ffaith mai sir Benfro yw'r ddeunawfed sir allan o 22 o siroedd Cymru sydd â mynediad at fand eang cyflym iawn. Credaf ei bod yn deg dweud bod sir Benfro, unwaith eto, yn dal i fod yn un o'r ardaloedd etholaethol isaf ar gyfer y cyfnod cyflwyno nesaf, ac mae hynny'n peri i rywun ofyn pam. Does bosibl nad yw'n bryd i Lywodraeth Cymru gryfhau ei hymdrechion a sicrhau bod yr ardaloedd nas gwasanaethwyd o'r blaen gan gamau cyflwyno blaenorol yn cael eu blaenoriaethu yn awr.
I lawer o gymunedau yn sir Benfro, gofyn yn syml am gael yr un fath â rhannau eraill o Gymru y mae pobl. Tan hynny, bydd Aelodau'r Cynulliad fel fi a gwleidyddion eraill yn parhau i gael gohebiaeth yn dweud wrthym fod diffyg band eang yn eu hardal leol wedi gadael pobl yn ynysig a busnesau'n llai cystadleuol yn fasnachol.
Gadewch imi hefyd atgoffa'r Dirprwy Weinidog fod ardaloedd fel sir Benfro hefyd yn gweld nifer arbennig o uchel o fanciau'n cau. Gwyddom y bydd Barclays yn cau ei gangen yn Aberdaugleddau ym mis Gorffennaf, ac mae hynny'n dilyn yr achosion blaenorol o gau banciau yn y blynyddoedd diwethaf gan NatWest, HSBC a Lloyds. Yn wir, mae tref Abergwaun bellach yn dref heb unrhyw fanc, sy'n gwbl syfrdanol o ystyried pwysigrwydd strategol y dref i'r economi ranbarthol a chenedlaethol. Felly, heb fynediad at wasanaeth band eang o safon, mae llawer o bobl sy'n byw yn y cymunedau hyn yn teimlo na allant wneud y trafodion bancio symlaf heb orfod teithio ymhellach. Ddirprwy Lywydd, nid dyma sut y dylai pethau fod yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain.
Felly, wrth gloi, mae angen i rywbeth ddigwydd ar frys. Rwy'n siŵr y byddai pawb ohonom yn cytuno bod economi lwyddiannus yn y byd modern yn dibynnu ar wasanaeth band eang cyflym ac effeithlon. Fodd bynnag, ni ddylai ardaloedd gwledig fel sir Benfro gael eu gadael ar ôl. Yn anffodus, er bod rhai rhannau o Gymru'n cymryd camau i'r cyfeiriad iawn, mae band eang cyfyngedig yn fy etholaeth yn rhoi ffermwyr, busnesau a chymunedau lleol o dan anfantais. Felly, mae'n hanfodol fod pob ymdrech yn cael ei gwneud er mwyn sicrhau bod cymunedau yn sir Benfro yn gallu cael gwasanaeth band eang teilwng. Felly, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ei pholisïau digidol yn rhoi ystyriaeth lawn i anghenion cymunedau ledled Cymru. Pan fydd symiau sylweddol o arian yn cael eu dyrannu, rhaid darparu strategaeth fanwl, gan ddarparu gwasanaethau band eang mawr eu hangen i'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig. Mae fy neges yn eithaf syml yma y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd: rhaid i sir Benfro beidio â chael ei gadael ar ôl. Mae fy etholwyr yn haeddu gwasanaeth band eang sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.