10. Dadl Fer: Y frwydr am fand eang gwell

– Senedd Cymru am 5:33 pm ar 8 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:33, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, felly os nad yw'r Aelodau'n aros ar gyfer y ddadl fer, a allwch adael yn gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda? Os nad yw'r Aelodau'n aros ar gyfer y ddadl, a allant adael yn gyflym ac yn dawel? Symudwn yn awr at y ddadl fer a galwaf ar Paul Davies i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo—Paul Davies.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 5:34, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael cyfle unwaith eto i godi mater cysylltedd band eang yn y Siambr hon, ac rwy'n hapus i roi munud o fy amser i Russell George.

Ar wahân i fater diogelu gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg, cysylltedd band eang, heb os nac oni bai, yw'r mater sy'n cael ei grybwyll amlaf ymysg fy etholwyr, ac mae hynny wedi digwydd ers imi gael fy ethol i'r lle hwn yn ôl yn 2007. Er fy mod yn derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid i ehangu gwasanaethau band eang drwy Gymru gyfan, mae'n hanfodol y bydd anghenion y rheini sydd â band eang cyfyngedig neu ddim band eang o gwbl yn cael eu diwallu ac na chânt eu hesgeuluso ar draul darparu band eang cyflym iawn mewn ardaloedd eraill. Mae pobl yn ardaloedd gwledig Cymru, ac yn arbennig pobl sy'n byw yn sir Benfro, yn parhau i frwydro i sicrhau darpariaeth band eang sylfaenol, tra mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd eraill yn symud ymlaen yn awr ac yn mwynhau gwasanaethau band eang cyflym iawn.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 5:35, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Mae signal band eang cyflym iawn yng Nghymru wedi cynyddu i 93 y cant o gartrefi a busnesau o 89 y cant y llynedd, yn ôl adroddiad 'Cysylltu'r Gwledydd 2018' Ofcom, ac felly, er fy mod yn derbyn bod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud, mae angen gwneud llawer mwy i fynd i'r afael â'r ardaloedd a adawyd â darpariaeth band eang is na'r safon. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno ei bod yn gwbl hanfodol fod ardaloedd fel sir Benfro yn cael eu cysylltu er mwyn galluogi cymunedau lleol i chwarae eu rhan yn gyfartal â gweddill Cymru, a gweddill y Deyrnas Unedig yn wir.

Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun, mae £85 miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer ail gam ymdrechion Openreach i gyflwyno gwasanaeth band eang digonol ledled Cymru. Nawr, gwyddom fod disgwyl i gam 2 y prosiect gostio £22 miliwn, a fyddai'n gadael dros £60 miliwn yn weddill ym mhoced Openreach. Rwy'n deall, wrth ymateb i gwestiynau diweddar ar y mater penodol hwn gan fy nghyd-aelod Russell George, fod y Dirprwy Weinidog wedi cadarnhau nad oedd yn gwybod sut y caiff yr arian dros ben ei ddefnyddio, gan fod y Llywodraeth yn dal i ystyried goblygiadau sut yn union y dylai wneud hynny. Felly, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, efallai y bydd y Dirprwy Weinidog o leiaf yn ymrwymo'n awr i ddarparu dadansoddiad o faint yn union o arian a gaiff ei wario ym mhob ardal awdurdod lleol fel y gall pobl Cymru, er budd tryloywder, weld lle bydd yr arian yn cael ei dargedu a sut y bydd eu cymunedau'n cael eu blaenoriaethu pan fydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu sut i symud ymlaen.

Nawr, bydd yr Aelodau'n cofio adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn 2012 ar y band eang yng Nghymru, a ganfu fod mynediad dibynadwy i'r rhyngrwyd yn cael ei ystyried yn gynyddol yn sbardun i berfformiad economaidd ac yn hanfodol i fusnes, addysg a phobl sy'n byw ar eu pen eu hunain neu mewn ardaloedd anghysbell.

Mae hynny'n sicr yn wir yn fy etholaeth i, lle mae busnesau bach a ffermwyr wedi bod o dan anfantais oherwydd y ddarpariaeth band eang gyfyngedig. Tynnodd yr adroddiad hwnnw gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig sylw at dystiolaeth gan Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, a ddadleuai, ac rwy'n dyfynnu:

Heb fand eang, bydd ardaloedd gwledig yn parhau i frwydro, a gwaethygir hyn gan ymdrechion y Llywodraeth i ddigideiddio'r rhan fwyaf o ffurfiau ar weinyddiaeth, megis y taliad sengl a'r dull fferm gyfan.   

Cau'r dyfyniad. Yn wir, dangosodd arolwg blynyddol Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr o'r ddarpariaeth fand eang a symudol fod 45 y cant yn credu nad yw eu cyflymder presennol yn ddigon cyflym ar gyfer eu hanghenion busnes. Yn y fan hon, mae'n werth atgoffa'r Aelodau fod ffermwyr yng Nghymru yn gorfod bod yn gynyddol ddibynnol ar wasanaethau a chymwysiadau ar-lein, ac felly mae'n hanfodol fod ganddynt fynediad digonol. Mewn ardaloedd fel sir Benfro, mae ffermio'n ddiwydiant hynod bwysig i'r ardal leol, ac felly mae'n hanfodol fod y ffermwyr hynny'n cael pob arf posibl i helpu eu busnesau i barhau i ffynnu. Felly, rhaid i Lywodraeth Cymru gryfhau ei hymdrechion i ddarparu band eang digonol mewn ardaloedd gwledig fel y gall y ffermwyr hyn barhau i fod yn gystadleuol yn y dyfodol.

Fodd bynnag, nid ffermwyr yn sir Benfro yn unig sy'n ei chael hi'n anodd, ond busnesau bach, teuluoedd, ac ysgol hyd yn oed. Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, mae gan sir Benfro ddiwydiant twristiaeth iach, sy'n cynnwys darparwyr llety a busnesau bwyd a diod llai o faint yn bennaf. Afraid dweud bod angen dirfawr i'r busnesau hynny farchnata eu hunain ar-lein er mwyn denu a chreu busnes a denu ymwelwyr o rannau eraill o'r DU, ac yn wir, o bob rhan o'r byd.

Meddai Dennis O'Connor, rheolwr cyswllt twristiaeth ar gyfer Twristiaeth Sir Benfro yn ddiweddar, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae twristiaeth yn werth tua £585 miliwn y flwyddyn i economi sir Benfro, ond er mwyn sicrhau twf yn y dyfodol, mae angen i ddarparwyr twristiaeth gael cysylltedd da i allu cynnal neu gynyddu'r gyfran o'r farchnad. Ni allant bellach ddibynnu ar yr awdurdod lleol i farchnata cyrchfannau, oherwydd cyllidebau sy'n crebachu, sy'n golygu bod mwy o bwyslais ar fusnes i gario'r baich.' Cau'r dyfyniad.

Mae'n wir o hyd fod gweithredwyr twristiaeth sir Benfro o dan anfantais o gymharu â rhannau eraill o Gymru, a gweddill y DU yn sicr.

Nawr, mae map allgáu digidol 2017 gan Go ON UK wedi nodi bod sir Benfro yn un o siroedd Cymru lle ceir llawer o allgáu digidol. Dengys nad yw 3,747 o gartrefi yn sir Benfro yn derbyn band eang ar gyflymder o 10 Mbps neu fwy, gydag ychydig dros 13 y cant o'r oedolion yn y sir heb fod ar-lein yn y tri mis diwethaf.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 5:40, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Unwaith eto, adroddiad arall sy'n ddeunydd darllen annymunol os ydych yn byw yn sir Benfro, ac mae'n ein hatgoffa eto fod sir Benfro'n dal i lusgo y tu ôl i ardaloedd eraill. Ac ni ellir gorbwysleisio difrifoldeb yr allgáu digidol hwn. Yn anffodus, gwelir un o'r enghreifftiau mwyaf difrifol a dybryd o ran y ddarpariaeth band eang yn sir Benfro yn Ysgol Llanychllwydog yng ngogledd sir Benfro, sy'n dal i fod yr unig ysgol yn y wlad gyfan heb fand eang. Yn gynharach eleni, dywedodd pennaeth yr ysgol, Mrs Lawrence, ac rwy'n dyfynnu:

Mae'n bwysig i mi fod gan blentyn yr un hawliau a mynediad at addysg lle bynnag y bo.

Cau'r dyfyniad. Ac mae hi'n llygad ei lle. Er fy mod yn derbyn bod lleoliad yr ysgol yn creu her arbennig, does bosibl na ddylai'r ffaith mai hon yw'r unig ysgol yng Nghymru heb fand eang fod yn ysgytwad. Mae'n gwbl annerbyniol fod dysgwyr o dan anfantais yn 2019 yn syml oherwydd nad oes gan yr ysgol y maent yn ei mynychu ddarpariaeth band eang digonol. Fodd bynnag, rwy'n deall bod rhywfaint o gynnydd yn cael ei drafod ar hyn o bryd, ac efallai, wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, y gallai'r Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar unwaith i sicrhau bod y problemau yn Ysgol Llanychllwydog yn cael sylw cyn gynted ag y bo modd. Os na chymerir camau brys i fynd i'r afael â'r problemau hyn, bydd dysgwyr sy'n byw mewn ardaloedd gwledig fel sir Benfro yn parhau i lusgo ar ei hôl hi, a bydd hyn yn effeithio ar addysg plant.

Nawr, fel y dywedais yn gynharach, rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatrys problemau cysylltedd digidol Cymru a bod arian ychwanegol wedi'i ddyrannu i fynd i'r afael â'r cymunedau hynny nad ydynt yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig fod pob cymuned ledled Cymru yn teimlo eu bod yn rhan o'r broses a bod rhyngweithio iachach gyda darparwyr gwasanaethau, ac felly rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn gwneud popeth yn ei allu i hwyluso hyn.

Nawr, fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog, rwyf wedi clywed pryderon gan bobl yn sir Benfro sy'n credu o ddifrif nad yw darparwyr gwasanaethau'n gwneud digon i helpu cymunedau i gael gwell gwasanaethau band eang, ac mae hynny'n destun pryder mawr. Yn ddiweddar, anfonodd un o fy etholwyr y neges hon ataf, ac rwy'n dyfynnu: 'Mae pawb ohonom yn dioddef o hyd gyda chyflymderau lawrlwytho rhwng 1 Mbps a 1.5 Mbps. Yn achlysurol iawn gall gyrraedd yn agos at 2 Mbps o gyflymder lawrlwytho. Rydym i gyd yn teimlo ein bod wedi cael ein hanghofio'n llwyr. Mae banciau lleol yn cau, mae siopau'n cau. Mae ein cyflymder rhyngrwyd mor wael fel ei bod weithiau'n anodd, os nad yn amhosibl, defnyddio'r rhyngrwyd i fancio ar-lein. Rhaid inni yrru ymhellach ac ymhellach i ddefnyddio banciau, siopau a gwasanaethau eraill sydd ar gael ar-lein. Roeddem i fod i gael mesurydd clyfar wedi'i osod, a gyrrodd technegydd o Lanelli draw i osod un. Nid oedd digon o signal symudol na chysylltedd rhyngrwyd i wneud i hyn weithio. Nid yw ein ffonau symudol yn gweithio yma oni bai eu bod wedi eu gosod i dderbyn galwadau rhyngrwyd Wi-Fi.' Cau'r dyfyniad.  

Credaf ei bod yn deg dweud bod ymgysylltiad a chymorth gwell i gymunedau gwledig yn hanfodol bellach er mwyn symud Cymru yn ei blaen, ac mae gan ddarparwyr gwasanaethau swyddogaeth i gryfhau eu perthynas â chymunedau lleol. Felly, estynnaf wahoddiad i'r Dirprwy Weinidog ddod i sir Benfro, i gyfarfod â phobl yr effeithir yn uniongyrchol arnynt gan wasanaethau band eang is na'r safon, fel y gall ddweud wrthynt yn uniongyrchol beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'u pryderon penodol.

Yn ôl yr hyn a ddeallaf, dim ond 375 eiddo yn sir Benfro fydd yn rhan o'r prosiect Superfast 2 ar hyn o bryd. Daw'r cyhoeddiad siomedig yn erbyn cefndir y ffaith mai sir Benfro yw'r ddeunawfed sir allan o 22 o siroedd Cymru sydd â mynediad at fand eang cyflym iawn. Credaf ei bod yn deg dweud bod sir Benfro, unwaith eto, yn dal i fod yn un o'r ardaloedd etholaethol isaf ar gyfer y cyfnod cyflwyno nesaf, ac mae hynny'n peri i rywun ofyn pam. Does bosibl nad yw'n bryd i Lywodraeth Cymru gryfhau ei hymdrechion a sicrhau bod yr ardaloedd nas gwasanaethwyd o'r blaen gan gamau cyflwyno blaenorol yn cael eu blaenoriaethu yn awr.  

I lawer o gymunedau yn sir Benfro, gofyn yn syml am gael yr un fath â rhannau eraill o Gymru y mae pobl. Tan hynny, bydd Aelodau'r Cynulliad fel fi a gwleidyddion eraill yn parhau i gael gohebiaeth yn dweud wrthym fod diffyg band eang yn eu hardal leol wedi gadael pobl yn ynysig a busnesau'n llai cystadleuol yn fasnachol.  

Gadewch imi hefyd atgoffa'r Dirprwy Weinidog fod ardaloedd fel sir Benfro hefyd yn gweld nifer arbennig o uchel o fanciau'n cau. Gwyddom y bydd Barclays yn cau ei gangen yn Aberdaugleddau ym mis Gorffennaf, ac mae hynny'n dilyn yr achosion blaenorol o gau banciau yn y blynyddoedd diwethaf gan NatWest, HSBC a Lloyds. Yn wir, mae tref Abergwaun bellach yn dref heb unrhyw fanc, sy'n gwbl syfrdanol o ystyried pwysigrwydd strategol y dref i'r economi ranbarthol a chenedlaethol. Felly, heb fynediad at wasanaeth band eang o safon, mae llawer o bobl sy'n byw yn y cymunedau hyn yn teimlo na allant wneud y trafodion bancio symlaf heb orfod teithio ymhellach. Ddirprwy Lywydd, nid dyma sut y dylai pethau fod yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain.

Felly, wrth gloi, mae angen i rywbeth ddigwydd ar frys. Rwy'n siŵr y byddai pawb ohonom yn cytuno bod economi lwyddiannus yn y byd modern yn dibynnu ar wasanaeth band eang cyflym ac effeithlon. Fodd bynnag, ni ddylai ardaloedd gwledig fel sir Benfro gael eu gadael ar ôl. Yn anffodus, er bod rhai rhannau o Gymru'n cymryd camau i'r cyfeiriad iawn, mae band eang cyfyngedig yn fy etholaeth yn rhoi ffermwyr, busnesau a chymunedau lleol o dan anfantais. Felly, mae'n hanfodol fod pob ymdrech yn cael ei gwneud er mwyn sicrhau bod cymunedau yn sir Benfro yn gallu cael gwasanaeth band eang teilwng. Felly, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ei pholisïau digidol yn rhoi ystyriaeth lawn i anghenion cymunedau ledled Cymru. Pan fydd symiau sylweddol o arian yn cael eu dyrannu, rhaid darparu strategaeth fanwl, gan ddarparu gwasanaethau band eang mawr eu hangen i'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig. Mae fy neges yn eithaf syml yma y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd: rhaid i sir Benfro beidio â chael ei gadael ar ôl. Mae fy etholwyr yn haeddu gwasanaeth band eang sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.  

Photo of Russell George Russell George Conservative 5:47, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Paul Davies am ganiatáu munud o'i amser i mi yn y ddadl hon heddiw. Y gwir o hyd yw bod 13 y cant o safleoedd yn sir Drefaldwyn yn methu cael cysylltedd band eang derbyniol, ac nid yw'r rhaniad trefol-gwledig ond yn peri mwyfwy o rwystredigaeth i bobl. Yr hyn sy'n gwneud pobl hyd yn oed yn fwy rhwystredig yw gweld seilwaith yn hongian o bolion ond heb allu cael mynediad at y seilwaith hwnnw—mor agos ond eto mor bell.

Mae'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn sôn am gam 2 y prosiect, ond hoffwn dynnu sylw at y ffaith nad yw 10,000 o safleoedd yn sir Drefaldwyn wedi cael unrhyw fath o fand eang cyflym iawn eto. Dim ond 11 y cant o'r 10,000 safle hwnnw—dim ond 11 y cant—a gaiff eu gwasanaethu gan gam 2; ni fydd 89 y cant yn cael hynny. Felly, byddai'n ddefnyddiol pe gallai Llywodraeth Cymru gadarnhau yn awr y bydd yn ystyried darparu cymorth ariannol i dalu'r gost ychwanegol yn rhannol neu'n llawn os yw'r gost o ddarparu band eang i eiddo yn uwch na throthwy cost yr ymrwymiad gwasanaeth cyffredinol o £3,400.

Cawsoch wahoddiad gan Paul Davies i'w etholaeth i siarad ag etholwyr am broblemau gyda band eang. Hoffwn gynnig yr un gwahoddiad i sir Drefaldwyn. Diolch i Paul Davies am ddefnyddio ei amser yn y ddadl fer hon heddiw i dynnu sylw at drafferthion band eang yn y Gymru wledig.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:48, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf yn awr ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl. Lee Waters.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn o gael fy ngwahodd gan gynifer o Aelodau i gyfarfodydd er mwyn i'w hetholwyr gael gweiddi arnaf mewn neuaddau pentref ledled Cymru. Rwyf eisoes wedi cael y pleser yn sir Gaerfyrddin, ac yn yr wythnosau nesaf rwy'n mynd i sir Frycheiniog hefyd, lle byddaf yn cyfarfod â phobl rwystredig iawn, ac rwy'n deall eu rhwystredigaeth yn llwyr.

Yn hael iawn, nododd y Gweinidog tai lawer o safbwynt y Llywodraeth yn ei haraith i gloi'r ddadl ddiwethaf, felly nid wyf am fynd drwy restr o gyflawniadau Llywodraeth Cymru—dyblu nifer y safleoedd yng Nghymru sydd â mynediad at fand eang cyflym iawn o fewn pum mlynedd. Ond hoffwn nodi fod gwelliant sylweddol wedi bod. Hoffwn wneud tri phwynt. Rwy'n gwerthfawrogi'r ffordd adeiladol y cyflwynodd yr Aelod ei achos, a hoffwn ymateb yn yr un modd, ond rwy'n credu bod angen gwneud tri phwynt.

Yn gyntaf, nid yw hwn yn faes sydd wedi'i ddatganoli. Nid mater bach yw hwn. Mewn unrhyw chwyldro telathrebu, mae cyflymder y newid wedi bod yn sydyn, ond ni fu'n gyfartal. Cymerodd beth amser i bolion ffôn godi ar draws Cymru ac erialau teledu hefyd. Mae'r un peth yn wir am y chwyldro telathrebu hwn. Mae'n arbennig o anodd cyrraedd ardaloedd gwledig. Mae'n ddrutach nag y mae i gyrraedd ardaloedd trefol. Mae'r ddaearyddiaeth a'r dopograffeg yn anodd iawn, ac mae effaith real ac ymarferol iawn i hynny. Mae'n rhywbeth y bydd yn rhaid ymdrin ag ef ar sail y DU gyfan hyd nes y caiff ei ddatganoli.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 5:50, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Nawr, yn anffodus, nid yw Llywodraeth y DU wedi ystyried trin band eang fel cyfleustod allweddol. Cytunaf â'r hyn a ddywedodd Paul Davies: yn y byd modern, rydym yn disgwyl gallu cysylltu'n gyflym â gwasanaeth ar-lein cyflym er mwyn gallu cyrraedd y gwasanaethau y mae pawb ohonom yn eu cymryd yn ganiataol erbyn hyn. Dyna pam y dylai fod ymrwymiad gwasanaeth cyffredinol go iawn. Yn union fel y mae'n rhaid i'r Post Brenhinol ddosbarthu cerdyn post i ben draw trac fferm yn yr un ffordd ag y mae'n gorfod gwneud hynny i res o dai teras mewn canolfan drefol, neu fel y mae'n rhaid darparu trydan i bobman sydd am ei gael, dylai'r un peth fod yn wir am fand eang, ond nid felly y mae. Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod trin band eang yn yr un ffordd ag y mae'n trin cyfleustodau eraill. Credaf fod hynny'n gamgymeriad, ac rwy'n sicr yn croesawu cefnogaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig i gyflwyno'r achos i'w Lywodraeth ei hun newid ei safbwynt. A byddem yn sicr yn gweithio gyda'n gilydd ar hynny.

Maent wedi cyhoeddi rhywbeth a elwir ganddynt yn ymrwymiad gwasanaeth cyffredinol, nad yw'n hollol fel y mae'n ymddangos ar yr wyneb, oherwydd mae'n rhoi hawl i ofyn am gysylltiad, nid hawl i gael un. Ac mae'r swm o arian y gellir ei hawlio yn llawer llai na'r swm o arian y byddai ei angen. Nid ydych ond yn gallu gofyn am gyflymder lawrlwytho o 10 Mbps a hawlio hyd at £3,400. Rhaid i unrhyw beth uwchlaw hynny gael ei ariannu ganddynt hwy eu hunain. Nawr, nid yw hynny'n ymrwymiad gwasanaeth cyffredinol yn ôl unrhyw ddiffiniad rhesymol. Credwn y dylid ei osod ar 30 Mbps ac na ddylai fod trothwy ariannol o'r math hwnnw.

Felly, credaf ei bod yn deg nodi nad yw wedi'i ddatganoli. Rydym yn cydnabod ei effaith hanfodol; dyna pam rydym wedi bod yn barod i wario arian datganoledig ar geisio ymyrryd lle mae'r farchnad a lle mae'r Llywodraeth wedi methu. Rydym wedi gwario £200 miliwn o arian Llywodraeth Cymru a'r UE yn y pum mlynedd diwethaf ar gynllun band eang Superfast Cymru, ac mae hwnnw'n arian nad yw ar gael i ysgolion ac ysbytai a gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd bu'n rhaid inni ymyrryd lle nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud hynny. Felly, rwy'n credu ei bod ond yn deg cydnabod ymdrechion Llywodraeth Cymru mewn maes lle na ddylai fod yn gorfod gweithredu o gwbl, am mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hyn.

Yr ail bwynt i'w wneud yw bod y farchnad yn methu yma. Soniodd Paul Davies am y ffenomen a welwn, lle mae darparwyr gwasanaethau'n baglu dros ei gilydd i gael cyflymder cyflymach byth i bobl mewn lleoliadau trefol ac nad oes ganddynt ddiddordeb mewn darparu unrhyw gyflymder i bobl mewn rhai ardaloedd gwledig. Nawr, methiant yn y farchnad yw hynny. Clywn yn aml gan y meinciau yn y fan honno am bwysigrwydd caniatáu i'r farchnad fod yn oruchaf, a dyma beth sy'n digwydd pan fydd y farchnad yn oruchaf: mae allgáu'n digwydd.

Nawr, rhoesom £80 miliwn pellach ar y bwrdd yn yr hyn y mae'r Aelodau sy'n gohebu'n rheolaidd ar hyn yn ei adnabod fel lot 2. Dywedasom fod £80 miliwn ar gael i'r farchnad wneud cais amdano, er mwyn cyrraedd yr eiddo nas cyrhaeddwyd o dan y prosiect Superfast. Ac o'r £80 miliwn a roddwyd gennym i wneud cais amdano, gwnaeth Openreach gais am £26 miliwn yn unig, i'w wario erbyn 2021. Felly, nid oes gan y farchnad ei hun ddiddordeb mewn cael cymhorthdal cyhoeddus i gyrraedd y safleoedd nad ydynt eto wedi'u cyrraedd o dan y rhaglen flaenorol a ariannwyd gennym. Felly, mae gennym broblem. Nid nad yw'r arian yno neu nad ydym yn barod i'w wario, er nad yw wedi'i ddatganoli. Mae yno. Rydym wedi dewis ei wneud, ond yn syml iawn, nid oes gennym bartneriaid sector preifat sy'n barod i wario ac estyn yn ddwfn i mewn i'r ardaloedd rydym am eu cyrraedd. Fel y soniodd Paul Davies, er mai sir Benfro o dan Superfast sydd â'r lefel uchaf ond dwy o wariant ledled Cymru, gyda £15 miliwn yn sir Benfro yn unig, o dan y cynllun nesaf, dim ond 300 o safleoedd sy'n mynd i gael eu cynnwys yn lot 2, ac mae hynny'n siomedig dros ben. Yn sicr, nid yw'n sefyllfa rydym ni'n awyddus i'w gweld.

Ond credaf fod angen inni wynebu'r ffaith bod awydd y farchnad, hyd yn oed gyda chymhorthdal, i gyrraedd safleoedd gyda band eang ffibr i'r eiddo yn dod i ben. Ac mae llawer o'r safleoedd hyn—gadewch inni gofio, mae 20 y cant o safleoedd yng Nghymru heb gysylltiad nwy, ac eto rydym yn disgwyl iddynt gael band eang cyflym iawn i'r eiddo, ac nid yw hynny'n mynd i ddigwydd yn y tymor byr. Nawr, os yw Llywodraeth y DU yn barod i gamu i'r adwy a chael ymrwymiad gwasanaeth cyffredinol go iawn, yna gellid gwneud hynny, ond ni all Llywodraeth Cymru ei wneud ar ei phen ei hun, a chredaf fod angen inni fod yn onest ynglŷn â hynny a'i wynebu.

Felly, fy nhrydydd pwynt yw hwn: beth y gallwn ei wneud? Ac rydym yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU; rydym wedi cytuno i ychwanegu at eu cynllun talebau band eang gigabit, felly mae cymhorthdal llawer mwy hael ar gael yn awr yng Nghymru nag yn Lloegr am fod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'i gilydd. Ac o dan y rhaglen cysylltedd gigabit honno y disgwyliwn i'r ysgol y soniodd Paul Davies amdani, Ysgol Llanychllwydog, gael ei chysylltu erbyn dechrau'r flwyddyn academaidd. Ond mae hwnnw'n brosiect sydd wedi'i wneud yn uniongyrchol gyda Llywodraeth y DU. Nid yw'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwneud ag ef, ond gobeithio y bydd modd iddynt gael cysylltiad erbyn pan fyddant yn dychwelyd ar ôl gwyliau'r haf.

Rydym yn edrych yn awr ar ymyriadau anghonfensiynol, fel y dywedais, oherwydd ein bod yn credu bod ffeibr i'r safle'n cyrraedd terfynau'r hyn y mae'r farchnad yn barod i'w ddarparu. Ceir prosiect diddorol iawn yn etholaeth Nick Ramsay, yn Nhrefynwy, lle maent yn defnyddio'r hyn a elwir yn ofod gwyn teledu i sicrhau cyflymderau o hyd at 10 Mbps. Mae'n defnyddio'r hen signal teledu analog lle gadawyd bylchau rhwng y sianelau er mwyn caniatáu ar gyfer ymyriant, ac yn y gofod gwyn hwnnw gallant drosglwyddo signalau band eang hyd at 10 Mbps. Ymwelais â'r cynllun pentref y mae Cyngor Sir Fynwy yn gwneud gwaith da iawn o'i redeg, ac mae'n edrych yn addawol iawn. Mantais defnyddio'r signal teledu yw ei fod yn gallu ymestyn ar draws bryniau ac i mewn i gymoedd mewn modd sy'n amlwg yn mynd i fod yn anodd iawn ac yn ddrud iawn i ffibr i'r safle ei wneud. Felly, mae gan brosiect o'r fath botensial sylweddol yn fy marn i, a byddem yn sicr yn fodlon—[Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad os caf, Lywydd.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 5:56, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am ildio, Ddirprwy Weinidog. Rydych yn llygad eich lle—rwy'n ymwybodol o'r prosiect hwnnw hefyd, ac efallai ein bod weithiau'n treulio gormod o amser yn poeni ac yn canolbwyntio ar y ffyrdd traddodiadol o ddarparu band eang lle bydd yn gostus iawn ac yn anodd iawn cysylltu pobl mewn rhai ardaloedd gwledig, ac efallai fod yr hyn rydych newydd ei ddweud, y defnydd o ofod gwyn, yn un maes arloesol y gallai Llywodraeth Cymru edrych arno.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Yn hollol. Mae'n cael ei dreialu, ac yn sicr maent yn cael problemau gyda sefydlogrwydd y cysylltiad, ond mae lefel yr ymyrraeth yn fach iawn—dim ond erial bach ar ochr y tŷ. Yn yr un modd, mae defnyddio 3G a 4G yn ffordd o gael band eang i lawer o bobl, a gallai fod yn llawer mwy realistig ac ymarferol na ffibr i'r safle. Felly, byddem yn sicr yn awyddus i weithio gyda Chyngor Sir Penfro i weld a allwn gyflwyno'r dysgu o brosiect sir Fynwy i sir Benfro. Gwn fod Cyngor Sir Gâr, er enghraifft, wedi cyflogi rhywun i weithio gyda chymunedau i geisio cael gafael ar y talebau amrywiol sydd ar gael, talebau rydym ni a Llywodraeth y DU yn eu darparu. Ond mae'n anodd yn aml i gymunedau allu trefnu a chael gafael ar y cronfeydd hyn, ac mae'n iawn, rwy'n meddwl, fod awdurdodau lleol yn cydnabod eu rôl yn hyn hefyd. Rwy'n gweld nifer o awdurdodau lleol yn gwneud hynny'n awr, ac rwyf eisoes wedi sôn am y gwaith da sy'n digwydd yn sir Fynwy.

Felly, credaf fod yna bethau y gallwn eu gwneud, ond yn hytrach na chwyno am fethiant Llywodraeth Cymru i gyrraedd cymunedau mewn maes nad yw wedi'i ddatganoli, mewn ardal y mae'r farchnad wedi penderfynu nad yw'n gallu ei gwasanaethu, a ninnau wedi gwario dros £200 miliwn eisoes, a rhoi mwy o arian ar y bwrdd nad oes gan y farchnad ddiddordeb yn ei ddefnyddio—rwy'n meddwl ei bod ond yn deg i ni nodi hynny hefyd. Ond rydym yn gwneud ein gorau. Mae fy swyddogion a minnau'n gweithio'n amyneddgar gydag Aelodau pan fyddant yn cysylltu â gohebiaeth i geisio cynnig cymaint o wasanaeth personol ag y gallwn i oresgyn yr anawsterau ymarferol hyn. Felly, a bod yn deg, credaf ein bod yn gwneud yr hyn a allwn, ond mae hwn yn fater anodd iawn. Nid yw'n fater syml, ac fel y dywedais, rydym yn wynebu cyfnod o newid aruthrol o gyflym ac mae'n anodd lledaenu'r manteision hyn yn gyfartal.  

Ond i ddychwelyd at y pwynt a wnaeth yr Aelod, rwy'n cytuno'n llwyr fod yn rhaid inni ymdrechu'n galetach i'w wneud, gan ei fod yn wasanaeth hanfodol, a hoffwn gydweithio, cyn belled ag y gallwn, gydag awdurdodau lleol, Llywodraeth y DU ac Aelodau o bob plaid i roi'r gwasanaeth hanfodol hwn i bob rhan o Gymru.  

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:59, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:59.