Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 8 Mai 2019.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf, cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw hyn ac rŷm ni wedi galw arnyn nhw i baratoi am refferendwm posib os ydynt am ddatrys y sefyllfa. Mae Prif Weinidog Cymru hefyd wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol i ofyn beth allai Llywodraeth Cymru ei wneud i hwyluso hyn.