Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 8 Mai 2019.
Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Ers refferendwm 2016, mae'r sector modurol yn y DU wedi cyhoeddi eu bod yn cau nifer o safleoedd. Mae'r ddadl ynglŷn ag i ba raddau y mae Brexit ar fai yn parhau, ond yn y cyfamser, mae gan bobl bryderon gwirioneddol ynglŷn â'u swyddi. Mae cau ffatri Honda yn Swindon yn peri cryn bryder imi, gan mai un o'u cyflenwyr cydrannau yw ffatri Kasai ym Merthyr Tudful yn fy rhanbarth i sy'n cyflogi 200 o bobl. Mae'n un o 12 cyflenwr yng Nghymru sy'n wynebu risgiau difrifol yn sgil cau'r un ffatri honno yn Swindon, ac mae'n dilyn y newyddion fod disgwyl 400 o ddiswyddiadau gwirfoddol yn ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr a 220 o swyddi yn y fantol yn sgil cau ffatri Schaeffler yn Llanelli. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo cyflenwyr cydrannau i oroesi yn ystod y cyfnod anodd hwn i'r diwydiant modurol, a pha sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi i weithwyr yn y sector fod eich Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i ddiogelu eu swyddi?