Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 8 Mai 2019.
Wel, diolch i'r Aelod am ei chwestiwn pwysig. Mae ei chwestiwn yn adlewyrchu'r ffaith y gallai penderfyniadau a wneir mewn rhannau eraill o'r DU o bosibl—soniodd am Honda; Nissan gynt, wrth gwrs—effeithio ar Gymru a rhannau eraill o'r DU. Yn sicr, rydym ni fel Llywodraeth wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU yng nghyd-destun eu cynlluniau ar gyfer y DU gyfan i sicrhau nad yw'r dimensiwn hwnnw'n cael ei golli yn yr ystyriaethau a bod gan benderfyniadau economaidd a wneir yn Lloegr ganlyniadau ymhell y tu hwnt i'r wlad honno. Ceir nifer o fusnesau yng Nghymru, a soniodd am un yn ei chwestiwn, sy'n agored iawn o ran y gadwyn gyflenwi i gyfleusterau cynhyrchu mewn rhannau eraill o'r DU.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda fforwm modurol Cymru i drafod a deall effaith Brexit, ac yn arbennig effaith Brexit 'dim bargen'. Mae'n amlwg fod llawer o bwysau ar hyn o bryd ar benderfyniadau a wneir gan gwmnïau modurol ledled Cymru, ond yn sicr, mae Brexit yn un ohonynt, a buaswn yn dadlau ei fod yn un sylweddol, ac mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau bod gan y cwmnïau hynny fynediad at gymorth Llywodraeth Cymru. Mae rhan o'r gwaith sydd wedi'i gychwyn yn cynnwys ystod o dimau arbenigol ymateb cyflym i alluogi Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i gwmnïau sy'n wynebu amgylchiadau anodd mewn ffordd sydd ar gael yn gyflym ac wedi'i haddasu ar eu cyfer.