Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 8 Mai 2019.
Ie, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Nid wyf yn gwybod, y tu hwnt i gyd-destun Brexit, cyd-destun hanesyddol hynny, ond bydd yn gwybod am waith Ysgol Fusnes Caerdydd sy'n cael ei ategu ar hyn o bryd mewn perthynas â rhai o'r materion a nodwyd yn ei gwestiwn. Rydym hefyd wedi sicrhau bod cyllid ar gael drwy gronfa bontio'r UE i gefnogi prosiectau ymchwil, i ddeall rhai o ddimensiynau'r cadwyni cyflenwi mewn mwy o fanylder, gan eu bod yn arbennig o gymhleth. Credaf ei fod yn sôn am gadwyn gyflenwi ryngwladol yn ei gwestiwn, os deallaf yn iawn, ond un o'r materion sylweddol sy'n ein hwynebu yng Nghymru—un o nodweddion ein heconomi, os mynnwch—yw'r cadwyni cyflenwi o fewn y DU, sydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddeall effaith Brexit ar y rheini mewn rhywfaint o fanylder, a bydd yr ymchwil hwnnw'n darparu peth o'r manylder hwnnw.