Effeithiau Posibl Brexit ar Gadwyni Cyflenwi

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 8 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 2:55, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn. Mae Tri-Wall Europe, cyflogwr mawr yn Nhrefynwy yn fy etholaeth, yn gwmni sy'n cynhyrchu deunydd pecynnu cardbord ar gyfer y diwydiant moduro a llawer o ddiwydiannau eraill hefyd, ac mae eu pencadlys yn y dwyrain pell ond maent yn defnyddio eu canolfan yn Nhrefynwy i gyflenwi ledled Ewrop. Yn y Cynulliad diwethaf, dywedodd Gweinidog yr economi ar y pryd, ar ôl ymweld â Tri-Wall, ei bod yn gobeithio mapio'r cadwyni cyflenwi sy'n bwydo'r cwmni hwnnw a'u deall yn well, yng Nghymru a ledled Ewrop. Tybed a oes unrhyw waith wedi'i wneud ar y broses honno o fapio cadwyni cyflenwi a dosbarthu, oherwydd mae hyn yn amlwg—. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cael hyn yn iawn mewn unrhyw gytundeb Brexit a bod y cadwyni cyflenwi hyn yn ganolog i unrhyw gytundeb. Felly, tybed pa dystiolaeth, pa wybodaeth sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i sicrhau, yn y trafodaethau hynny, pan fyddwch yn rhoi mewnbwn i Lywodraeth y DU sydd wrth y bwrdd, fod buddiannau cwmnïau fel Tri-Wall a chwmnïau tebyg eraill ledled Cymru yn ganolog i'r trafodaethau hyn.