Paratoi am Brexit heb Gytundeb

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 8 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:49, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu ymagwedd eithaf cyfrifol a diwyd tuag at baratoi ar gyfer 'dim bargen', ond nid yw hynny wedi digwydd heb rywfaint o gostau uniongyrchol real hyd yma, a chostau anuniongyrchol real hefyd yn sgil dargyfeirio adnoddau o flaenoriaethau eraill. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ddim o gymharu â chost gadael ar sail 'dim bargen' a'r difrod parhaol y gwnaiff hynny i swyddi yn ein hardaloedd awdurdodau lleol, i economïau lleol, gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'n rhaid i mi ddweud, i gydlyniant cymunedol, wrth i effeithiau 'dim bargen' darfu ar ein cymunedau am flynyddoedd i ddod. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno ei bod yn hanfodol fod y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn gwneud popeth yn ei gallu yn awr i osgoi 'dim bargen', ac yn sicr, nad yw'n gwastraffu'r misoedd nesaf cyn yr hydref yn ein gwthio tuag at ymyl y dibyn unwaith eto? Ni fydd hanes yn maddau os caiff buddiannau plaid flaenoriaeth dros fuddiannau'r wlad ar yr adeg hollbwysig hon.