2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 8 Mai 2019.
5. Pa gamau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu cymryd i weithio gyda phob awdurdod lleol ledled Cymru i baratoi am Brexit heb gytundeb? OAQ53812
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol yn uniongyrchol a thrwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i helpu awdurdodau i gynllunio i liniaru ac ymateb i effeithiau niweidiol Brexit 'dim bargen'. Mae'r Llywodraeth yn credu'n gryf na ddylai'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Diolch. Ym mis Chwefror, cyhoeddodd yr archwilydd cyffredinol adroddiad am baratoadau yng Nghymru ar gyfer Brexit 'dim bargen', ac amlygodd hyn y ffaith bod strwythurau, prosesau a'r paratoadau yn amrywio'n fawr ar draws y sector llywodraeth leol yng Nghymru. Er fy mod yn gwerthfawrogi'r gwaith a wnaed gan CLlLC, a wnewch chi ddatgan pa gamau rydych yn eu cymryd fel Gweinidog Brexit i sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddull cyson a digonol o baratoi ar gyfer pa fath bynnag o Brexit a gawn yn y pen draw?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Cafodd yr adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ei groesawu gennym, fel y gŵyr. Roeddem yn teimlo ei fod yn gydnabyddiaeth fod llawer iawn o waith yn mynd rhagddo yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ymdrin â chanlyniadau digroeso gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n llygad ei lle yn dweud bod cyfeiriad yn yr adroddiad, bryd hynny, at amrywioldeb ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, er fy mod yn credu bod y dystiolaeth a oedd yn sail i'r adroddiad hwnnw wedi ei chasglu ychydig fisoedd ynghynt. Ond mae hi wedi cydnabod yn ei chwestiwn y gwaith a wnaethom gyda CLlLC i alluogi i arferion gorau gael eu rhannu ar draws awdurdodau lleol.
Hefyd, mewn ymateb i gais gan awdurdodau lleol yng Nghymru, rydym wedi darparu arian ychwanegol i feithrin gallu er mwyn sicrhau bod adnoddau staffio, os mynnwch, mewn awdurdodau lleol i gydgysylltu ac arwain y gwaith gweithredol a wneir gan awdurdodau lleol. Rydym wedi darparu £1.2 miliwn o gronfa bontio'r UE er mwyn cefnogi'r gwaith hwnnw. Ceir lefel uchel iawn o ymgysylltiad ag awdurdodau lleol drwy'r panel cynghori llywodraeth leol ar barodrwydd i ymadael â'r UE a thrwy'r cyngor partneriaeth, sy'n darparu'r cyfleoedd i rannu arferion gorau.
Pan fo cabinetau awdurdodau lleol wedi edrych ar sut y gallant asesu eu parodrwydd eu hunain, gwn eu bod wedi edrych ar brofiadau cynghorau eraill wrth gynnal eu dadansoddiad eu hunain, er mwyn dysgu o'r arferion gorau hynny. Rwy'n credu bod enghraifft yn ddiweddar—credaf fy mod yn iawn i ddweud—yn Nhorfaen, ohonynt yn gwneud yn union hynny a defnyddio hynny fel arf i asesu eu parodrwydd eu hunain.
Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu ymagwedd eithaf cyfrifol a diwyd tuag at baratoi ar gyfer 'dim bargen', ond nid yw hynny wedi digwydd heb rywfaint o gostau uniongyrchol real hyd yma, a chostau anuniongyrchol real hefyd yn sgil dargyfeirio adnoddau o flaenoriaethau eraill. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ddim o gymharu â chost gadael ar sail 'dim bargen' a'r difrod parhaol y gwnaiff hynny i swyddi yn ein hardaloedd awdurdodau lleol, i economïau lleol, gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'n rhaid i mi ddweud, i gydlyniant cymunedol, wrth i effeithiau 'dim bargen' darfu ar ein cymunedau am flynyddoedd i ddod. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno ei bod yn hanfodol fod y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn gwneud popeth yn ei gallu yn awr i osgoi 'dim bargen', ac yn sicr, nad yw'n gwastraffu'r misoedd nesaf cyn yr hydref yn ein gwthio tuag at ymyl y dibyn unwaith eto? Ni fydd hanes yn maddau os caiff buddiannau plaid flaenoriaeth dros fuddiannau'r wlad ar yr adeg hollbwysig hon.
Wel, rwy'n ategu'r teimladau yng nghwestiwn yr Aelod. Credaf ei fod yn iawn i'n hatgoffa bod posibilrwydd gwirioneddol y bydd 31 Hydref yn ymyl dibyn gohiriedig oni bai y cymerir camau yn y cyfamser. Ac mae Llywodraethau ledled y DU wedi gorfod ildio cryn dipyn o adnoddau o dan yr amgylchiadau, o ran arian ac o ran amser, ac mewn gwirionedd, y costau cyfle yn sgil hynny. Fel y dywedais o'r blaen, cymryd y camau hynny yw'r weithred i Lywodraeth gyfrifol yn y lle hwn. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod, yn amlwg, y byddai'n well gennym pe na baem mewn sefyllfa lle byddai'n rhaid i ni wneud hynny. Wrth inni sefyll yma heddiw, rydym yn ceisio cydbwyso ein hymrwymiad parhaus i sicrhau ein bod yn cymryd y camau hynny i sicrhau, hyd eithaf ein gallu, fod Cymru'n barod gyda'r ffaith bod yn rhaid inni fod yn eglur fod y defnydd o adnoddau yn gymesur â'r gwaith hwnnw. Felly, byddwn yn defnyddio'r ychydig wythnosau nesaf i gynnal dadansoddiad gwersi a ddysgwyd o'r camau a gymerwyd cyn y diwrnod ymadael—wel, y diwrnod ymadael arfaethedig—ar 29 Mawrth, fel ein bod yn deall yr hyn y gallwn ei wneud yn well dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Fodd bynnag, ceir risg yn fy marn i ein bod bellach yn edrych ar y chwe mis nesaf ac yn meddwl, 'Wel, mae hyn ymhell yn y dyfodol.' Rydym eisoes oddeutu saith wythnos i mewn i'r cyfnod hwnnw o saith mis o oedi. Efallai y cyrhaeddwn doriad yr haf heb ddatrysiad, yna byddwn yn colli amser dros yr haf, ac rydym yn wynebu'r risg o ddod yn ôl yng nghanol mis Medi gyda chwe wythnos tan y terfyn amser newydd. Felly, rwy'n annog pobl i ystyried hynny. Ac rwy'n cytuno ag ef fod yn rhaid canolbwyntio ein hegni bellach ar ddatrys y mater hwn.