Effaith Brexit ar GIG Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 8 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:00, 8 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ein staff iechyd yw conglfaen ein GIG, ac mae llawer o'r rhain yn dod o'r Undeb Ewropeaidd yn wreiddiol. Yng Nghymru, mae 4 y cant o feddygon teulu a 15 y cant o ddeintyddion yn ennill eu cymhwyster meddygol sylfaenol yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Yn ôl adroddiad o'r enw 'Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru: Ymagwedd Asesu Effaith ar Iechyd', mae Brexit yn creu potensial cadarnhaol i ddenu gweithwyr medrus i sectorau allweddol yng Nghymru o wledydd y DU a gwledydd y tu allan i'r UE. Gwnsler Cyffredinol, yn ogystal â thawelu meddyliau gwladolion yr UE eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod eu hangen yng Nghymru o hyd, a wnewch chi ddatgan pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddenu gweithwyr meddygol proffesiynol o wledydd y tu allan i'r UE?