Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 8 Mai 2019.
Rydym—. Nid wyf yn hollol siŵr lle i ddechrau gyda hynny, mewn gwirionedd. Rydym wedi bod yn gwbl glir, a byddai'n dda gennyf pe bai hi, ynghyd ag Aelodau yn ei phlaid, ychydig yn fwy eglur nag y maent wedi bod ar y mater hwn o bosibl, o ran pa mor bwysig yw hi fod ein gwasanaethau iechyd a gofal yn parhau i allu dibynnu ar wasanaethau gweithwyr gwerthfawr iawn sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi cymryd camau penodol—mae'n sôn am gymwysterau yn ei chwestiwn—i sicrhau bod y cymwysterau hynny'n parhau i gael eu cydnabod a'u parchu yma yng Nghymru a ledled y DU. Mae'n disgrifio Brexit fel cyfle. Yn y cyd-destun arbennig hwn, credaf fod hwnnw, yn ôl pob tebyg, yn un o'r disgrifiadau mwyaf rhyfedd i mi eu clywed. Credaf fod Brexit yn fygythiad i'r gweithluoedd yn y lleoedd hyn ledled Cymru, ac mae'n ddyletswydd arnom i gyd yn y lle hwn i atgoffa dinasyddion yr UE sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u croesawu ac y byddant yn parhau i gael eu gwerthfawrogi a'u croesawu yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.