– Senedd Cymru am 3:02 pm ar 8 Mai 2019.
Ac felly, yr eitem nesaf yw’r datganiadau 90 eiliad. Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd angladd Llywelyn Williams o Lanrug yn fy etholaeth i. Gŵr ifanc, deallus a disglair. Mae ei golli’n golled i Gymru, i Arfon ac i’w gymuned, ond yn bennaf oll i’w deulu. Mynychodd Ysgol Gynradd Llanrug ac yna Ysgol Uwchradd Brynrefail, cyn dilyn cwrs gradd yn Aberystwyth mewn gwleidyddiaeth a hanes. Cafodd ysgoloriaeth gerddorol i’r brifysgol, ac yno fe fu’n aelod ffyddlon o’r gerddorfa. Tra yn y brifysgol yn Aberystwyth, roedd yn aelod brwd o’r cymdeithasau Cymreig, ac roedd yn rhan o sefydlu papur newydd Yr Heriwr ar gyfer myfyrwyr. Roedd yn weithiwr cydwybodol gyda changen y coleg o Blaid Cymru, gan gydweithio’n agos â'r gangen leol yn Aberystwyth. Yn ôl teulu Llew, un o uchafbwyntiau’r cwrs gwleidyddiaeth oedd cyfle i fynd ar brofiad gwaith i’r Senedd yn Llundain gyda’r Aelodau Seneddol Elfyn Llwyd a Hywel Williams. Yno, magodd hyder a brwdfrydedd i edrych am yrfa mewn gwleidyddiaeth ac i wasanaethu’r gymuned leol.
Ar ôl ei gyfnod yn Aber, symudodd yn ôl i Lanrug i weithio gyda chyngor Môn, ond, yn anffodus, o fewn ychydig fisoedd, fe aeth yn sâl, a chafodd lawdriniaeth yn ysbyty Walton, Lerpwl. Dros y tair blynedd a hanner ddiwethaf parhaodd yn bositif a brwdfrydig, gan ailafael yn ei ddiddordebau cerddorol gyda bandiau pres lleol a chôr Dyffryn Peris. Gweithiodd yn selog o fewn ei gymuned fel cynghorydd cymuned a thrwy bwyllgorau’r Blaid ac fel llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Llanrug. Fe fu’n bositif a chadarn, gan frwydro’n ddewr i’r diwedd er gwaethaf ei salwch. Fe gofiwn Llew fel person annwyl a bonheddig, brwdfrydig dros lwyddiant eraill, a Chymro i’r carn. Anfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at ei deulu a’i gyfeillion ar yr adeg anodd a thrist yma.
Mae Gŵyl Werin Tŷ Tredegar ymhlith yr uchafbwyntiau yng nghalendr diwylliannol Casnewydd. Y penwythnos hwn, mae'r ŵyl hon, sy'n para tridiau, yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae cannoedd o gerddorion, cantorion a dawnswyr o bob rhan o'r byd wedi bod yn ymgynnull yng Nghasnewydd. Yn fwy nag erioed, bydd digwyddiad eleni yn ddathliad go iawn o rym cerddoriaeth i ddod â phobl at ei gilydd. Mae rhywbeth arbennig ynglŷn â chyfuno treftadaeth ddiwylliannol Cymru â thraddodiadau a hanesion gwledydd o bob cwr o'r byd. Yn ogystal â grwpiau sy'n ymweld, bydd enillwyr diweddar gwobrau gwerin BBC Radio Wales yn perfformio hefyd. Cynhelir sesiynau ceilidh, gweithdai, dawns a cherddoriaeth. Mae'n hyfryd gweld pobl o bob oed yn cofleidio'r fath amrywiaeth o berfformiadau ac arddulliau. Mae bob amser rhywbeth newydd a gwahanol i'w fwynhau. Rwy'n falch eu bod wedi gofyn i mi fod yn llywydd yr ŵyl werin, gan olynu Paul Flynn, a oedd yn gefnogwr brwd a diysgog. Mae Stephen Lyons a'r trefnwyr blynyddol wedi cynllunio rhaglen wych unwaith eto. Fel bob amser, mae eu hymroddiad a'u gwaith caled wedi creu arddangosiad go iawn o'n diwylliant cyfoethog. Ynghyd â llawer o stiwardiaid gwirfoddol, mae eu hymroddiad yn sicrhau bod ymwelwyr yn parhau i ddychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'r cyffro'n cynyddu ar gyfer y pen-blwydd arbennig hwn, ac edrychaf ymlaen at weld sut y bydd yr ŵyl yn parhau i dyfu dros y 30 mlynedd nesaf.