Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 8 Mai 2019.
Roeddwn i'n edrych ar un o'r adroddiadau sy'n cael ei gyfeirio ato yn y cynnig wrth baratoi ar gyfer y ddadl yma heddiw, ac roedd hwnnw yn sôn am sut bod yna ddiffyg yn y modd mae'r uwch arweinyddiaeth wedi gweithredu ar amser er mwyn delio â'r risgiau sy'n bodoli o fewn y gwasanaeth. Roedd yr adroddiad yn sôn am ddiffyg enfawr o ran adrodd digwyddiadau difrifol, bod oedi o ran ymateb i gwynion ac, mewn rhai achosion, fod y cwynion hynny ddim yn cael unrhyw fath o ymateb o gwbl. Pa adroddiad oedd hwnnw, meddech chi? Wel, adroddiad Ockenden, neu un o adroddiadau Ockenden ar Tawel Fan. Fe edrychais i ar adroddiad arall wedyn, a oedd yn ategu llawer o’r un negeseuon: system gwyno adversarial gyda rheolaeth araf, problemau gyda’r strategaethau sefydliadol ar ddiogelwch cleifion, ar ddatblygu capasiti, ar gynllunio’r gweithlu, a rhai enghreifftiau o ofal claf cwbl erchyll ac ysgytwol. Adroddiad Andrews oedd hwnnw, yn cyfeirio at Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg o 2014. A nawr, wrth gwrs, mae gennym ni adroddiad y coleg brenhinol, sy’n dangos eto fod staff yn cael eu gorweithio, yn gweithio o dan arweiniad rheolwyr sydd ddim yn cyflawni eu rôl yn effeithiol, bod yna dan-adrodd digwyddiadau difrifol yn digwydd. Mae’r adroddiad yn dangos nad yw diogelwch cleifion yn flaenoriaeth o ran y broses o wneud penderfyniadau a bod staff yn gyndyn i adrodd pryderon am ddiogelwch cleifion oherwydd ofn cael eu cam-feio neu eu hatal o’r gwaith dros dro, neu wynebu gweithredu disgyblu am adrodd eu pryderon. Ac mae pryderon hefyd am y broses gwyno eto yn cael eu hamlygu yn fan hyn.
Mae’r Gweinidog presennol, wrth gwrs, wedi bod yn gyfrifol am redeg yr NHS o ddydd i ddydd ers Medi 2014, oherwydd dyna oedd ei rôl e fel Dirprwy Weinidog bryd hynny. A mater o fisoedd yn unig yn dilyn cyhoeddiad adroddiad Andrews i ABMU, ac o gwmpas yr un amser yr oedd adroddiad Ockenden cyntaf yn cael ei ysgrifennu yr oedd e’n dod i’w rôl, wrth gwrs. Ac mi fyddai’n rhesymol, wrth gwrs, inni beidio â beio’r Gweinidog am fethu ag atal y sgandalau hyn, ond mae ganddo fe gyfrifoldeb dros ei ymateb e iddyn nhw.
Yn fy rhanbarth i yn y gogledd, wrth gwrs, mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, fel rŷm ni wedi clywed, wedi cael ei roi o dan fesurau arbennig, a hynny, wrth gwrs, pan oedd y Prif Weinidog yn Ysgrifennydd Cabinet iechyd ar y pryd. Roedd hynny i fod yn rhywbeth dros dro. Pedair blynedd o reolaeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach, wrth gwrs, rŷm ni’n dal ddim wedi gweld y gwelliannau y byddem ni oll wedi gobeithio eu gweld pan aethon nhw i mewn i fesurau arbennig. Ac yn wir, mae yna derminoleg nid annhebyg i 'fesurau arbennig, arbennig' wedi bod yn cael ei defnyddio ers hynny, ac mae hynny, wrth gwrs, yn peri gofid i ni i gyd. Ac mae'r bwrdd wedi cael ei lethu gan nifer o sgandalau, wrth gwrs, dros y blynyddoedd. Un o'r materion cyntaf ar ôl i fi gael fy ethol oedd y sgandal C. difficile yn Ysbyty Glan Clwyd, os cofiwch chi, nifer o flynyddoedd yn ôl. Ond dim un aelod o'r bwrdd nac o’r uwch-reolwyr yn cael ei ddisgyblu am y methiant yna.