Iechyd Meddwl Pobl Ifanc

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 14 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:25, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Mae pobl ifanc heddiw yn wynebu pwysau nad oedd yr un ohonom ni wedi breuddwydio amdano yn ystod ein cenhedlaeth ni. O bwysau ynghylch sut maen nhw'n edrych ar Instagram i'r angen i wario arian er mwyn osgoi bod yn 'default' yn Fortnite, mae baich yr oes gyfryngau cymdeithasol yn cael effaith niweidiol. Yr wythnos diwethaf, datgelodd arolwg fod plant chwech a saith oed yn poeni am brofion ysgolion. Brif Weinidog, pa gamau y gall eich Llywodraeth eu cymryd i leihau'r straen a roddir ar bobl ifanc?