Mawrth, 14 Mai 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni yr wythnos yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dai Lloyd.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu ynni llanw yng Ngorllewin De Cymru? OAQ53834
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i bobl hemoffilig yng Nghymru, a'u teuluoedd? OAQ53881
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i annog mwy o ymgysylltiad â democratiaeth leol? OAQ53858
5. Pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i adeiladu ar lwyddiant cynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru? OAQ53874
6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu dull gweithredu system gyfan i wella ein system fwyd? OAQ53876
7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ehangu gradd-brentisiaethau? OAQ53873
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ba mor effeithiol yw'r modelau ariannu presennol ar gyfer prosiectau seilwaith cyhoeddus o ran denu darpar fuddsoddwyr? OAQ53880
9. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd meddwl pobl ifanc? OAQ53877
Mae'r cwestiynau nesaf, felly, i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Mohammad Asghar.
1. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch cymunedol yn ystod y 12 mis nesaf? OAQ53830
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau cynghori'n cael eu cefnogi'n llawn am weddill y pumed Cynulliad? OAQ53857
3. Pa ddadansoddiad diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith llymder ar gydraddoldeb yng Nghymru? OAQ53851
4. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth i farn Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol? OAQ53837
5. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am drais a cham-drin domestig yng Ngorllewin De Cymru? OAQ53879
6. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am sut y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gwella bywydau pobl yng Nghymru? OAQ53878
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a'r cyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i wneud y datganiad—Rebecca Evans.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun gweithredu ar gyfer dementia. Ac dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud...
Rydym yn symud ymlaen nawr at eitem 4, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ar lwybr arfordir Cymru. Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, i agor.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar deithio llesol. Ac dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad—Lee Waters.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth.
Ac felly dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Yr unig bleidlais y prynhawn yma yw'r bleidlais ar y ddadl ar adroddiad blynyddol y prif swyddog meddygol, a dwi'n galw, felly, am bleidlais ar...
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer llygredd amaethyddol a diwygio'r rheoliadau?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia