Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 14 Mai 2019.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Gallaf ei sicrhau hi y byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU ar y model cyllido newydd y mae'n ei ddatblygu o ran dyfodol posibl Wylfa ac i weld a oes model y gallan nhw ei ddyfeisio a fyddai'n denu buddsoddwyr yn ôl i'r bwrdd i weld a ellir dod â'r oedi i ben yn achos cynllun Wylfa. O ran Llywodraeth Cymru—ac wrth gwrs mae'r model cyd-fuddsoddi yr ydym ni wedi'i ddatblygu yn cynnig tri phrosiect allweddol yr ydym yn bwrw ymlaen â nhw—mae diddordeb mawr wedi bod ymhlith contractwyr a chyllidwyr ac rydym yn dal i fwriadu datblygu'r model hwnnw yn gysylltiedig â'r Felindre newydd, o ran rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac o ran prosiectau ffyrdd hefyd.