Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 14 Mai 2019.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw, Gweinidog. Mae anoddefgarwch crefyddol ar gynnydd o gwmpas y byd. Yn ystod y ddeufis diwethaf, rydym wedi gweld ymosodiadau ar fosgiau yn Seland Newydd, ar eglwysi yn Sri Lanka ac ar Synagog yng Nghaliffornia. Mewn ymateb, mae'r Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid, wedi dyblu faint o arian sydd ar gael i ddarparu diogelwch amddiffynnol ar gyfer addoldai. Gan fod yr hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd yn hawl ddynol sylfaenol, Dirprwy Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu a thawelu meddwl cymunedau ledled Cymru eu bod yn ddiogel yn eu mannau addoli?