Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 14 Mai 2019.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ein helpu i ganolbwyntio o'r newydd ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella ac i ymgysylltu ag amrywiaeth poblogaeth Cymru, ac mae'n bwysig ein bod yn cydweithio'n agos â hi o ran gweithredu o'r Ddeddf drwy gefnogi sefydliadau ac, yn wir, wrth rannu arfer gorau ledled Cymru. Wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog ar hyn o bryd yn ystyried adroddiad yr arolygydd annibynnol ar brosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd, a bydd ei benderfyniad yn cael ei gyhoeddi yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin.