Trais a Cham-drin Domestig yng Ngorllewin De Cymru

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 14 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:44, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Mae hon yn enghraifft o arfer da y gwn y bydd yn cael ei rhannu gan brif gwnstabliaid a chomisiynwyr heddlu a throseddu. A dweud y gwir, rwy'n cadeirio'r bwrdd plismona ddydd Iau yr wythnos hon, ac rwy'n sicr y tynnir ein sylw at hyn, gan ei fod yn rhoi cyfle i'r heddlu a'r gwasanaethau gydweithio i gyflawni ein strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac mae'n bwysig inni allu dysgu gan bob rhan o Gymru sut y gall gwasanaethau weithio gyda'i gilydd i ddarparu'r gefnogaeth a'r camau gweithredu hynny o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig.