Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 14 Mai 2019.
Trefnydd, mewn datganiad ysgrifenedig ar 30 Ebrill, mynegodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ei phryderon ynghylch canfyddiadau adroddiad Arolygiaeth ei Mawrhydi ar Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Bae'r Gorllewin, a gyhoeddwyd ar 28 Mawrth eleni. Dangosodd yr adroddiad na chyflawnwyd y broses gyfuno gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr yn dda, a bod y sefydliad a grëwyd yn 2014 wedi methu ag amddiffyn y plant a'r bobl ifanc yn ddigonol, a'r cyhoedd yn gyffredinol, yn yr ardal. Canfu'r adroddiad nad oedd yr un o'r tri awdurdod lleol wedi cymryd cyfrifoldeb llawn am y gwasanaeth, bod gwaith partneriaeth yn anghyson, ansawdd gwaith achos amrywiol, a rheolaeth annigonol o ddydd i ddydd, a bod rheolwyr a staff, gan ddyfynnu, wedi'u gadael i ddiffodd tân ac ymateb i symptomau problemau systemig sylweddol.
Yn y bôn, mae'r adroddiad yn nodi ei bod yn aml yn amhosibl gwybod a yw plant a phobl ifanc yn Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot yn cael eu hamddiffyn o gwbl. Er nad yw cyfiawnder ieuenctid yn fater sydd wedi'i ddatganoli, mae cysylltiadau clir â meysydd sydd wedi'u datganoli, fel gwasanaethau cymdeithasol ac ymyrraeth gynnar. Nawr, gan fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn trafodaethau gyda nifer o gyrff ar y mater hwn, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo, felly, i ddarparu datganiad llafar, gan ganolbwyntio'n benodol ar y cynnydd sydd ei angen ac sy'n cael ei wneud ar yr argymhellion a geir yn yr adroddiad hwn?