Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 14 Mai 2019.
Wel, wrth gwrs ein bod ni yn cytuno bod diogelwch yn hollbwysig a dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi sicrhau bod swyddogion ar bob trên, er enghraifft, pan rydym yn eu gweld yn cael eu tynnu oddi ar wasanaethau mewn rhannau eraill o'r DU. Rwy'n credu mai'r ffordd orau ymlaen fyddai i chi ysgrifennu at Weinidog yr economi gan nodi'r enghreifftiau penodol yr ydych chi wedi'u rhoi y prynhawn yma. Bydd e'n gallu mynd i'r afael â nhw, wedyn, gyda Trafnidiaeth Cymru.