Part of the debate – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 14 Mai 2019.
O ran y ddau fater hynny, felly ffatri beiriannau Ford a'r problemau o ran tagfeydd o amgylch yr A4119, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am yr economi a thrafnidiaeth ysgrifennu atoch ynglŷn â'r hyn y gall ei ddweud am ffatri beiriannau Ford, ac yna hefyd gynlluniau i fynd i'r afael â phroblemau tagfeydd ac unrhyw drafodaethau y mae wedi'u cael gydag asiantaethau perthnasol eraill.