Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 15 Mai 2019.
Y gobaith yw y bydd adroddiad y Cenhedloedd Unedig y mis hwn ar ddirywiad rhywogaethau yn rhybudd i arweinwyr ledled y byd. Gallai un filiwn o rywogaethau ddiflannu dros y blynyddoedd nesaf. Oni bai ein bod yn rhoi camau difrifol ar waith, fe fyddwn ni fel rhywogaeth ddynol yn eu dilyn. Nid yw hon yn broblem sy'n bell i ffwrdd, gan ein bod wedi gweld yr un tueddiadau yma yng Nghymru. Mae'r adroddiad cyflwr natur yn dangos bod un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu. Mae 57 y cant o blanhigion gwyllt, 60 y cant o loÿnnod byw a 40 y cant o adar yn dirywio. Amlygodd adroddiad 'State of Birds in Wales 2018' fod bron i draean o adar Cymru yn dirywio'n sylweddol. Nid yw'r darlun yn llawer gwell i stociau pysgod, gan fod llawer o rywogaethau, fel eog, brithylliaid y môr a sewin, mewn perygl ledled Cymru.
Nawr, croesawaf ddatganiad y Llywodraeth hon ar yr argyfwng hinsawdd, ond ni allaf gysoni'r safbwynt hwn â honiad y Prif Weinidog nad oedd yn cynrychioli, a dyfynnaf, 'gwahaniaeth mawr o ran polisi.' Ai sbloet gysylltiadau cyhoeddus oedd y datganiad hwnnw, ac yn bwysicach, a yw eich Prif Weinidog, ac yn wir y Llywodraeth hon yn gyffredinol, yn anwybyddu'r rhybuddion?