Mercher, 15 Mai 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:29 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Cyn i mi alw'r eitem gyntaf ar yr agenda, dwi'n dymuno hysbysu'r Cynulliad fy mod i wedi derbyn llythyr gan bedwar o Aelodau yn fy hysbysu o'u dymuniad i ffurfio grŵp yn unol â Rheol...
Sydd nawr yn dod â ni at y cwestiynau i Weindiog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r gostyngiad a ragwelir mewn incwm ffermydd? OAQ53843
2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o adroddiad y Cenhedloedd Unedig sy'n datgan bod un filiwn o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu o ganlyniad uniongyrchol i weithgarwch dynol? OAQ53855
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
3. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r bygythiad yn sgil dirywiad mewn rhywogaethau? OAQ53860
4. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal a gwrthdroi colledion mewn bioamrywiaeth? OAQ53864
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd? OAQ53862
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r diwydiant bwyd a diod yng nghanolbarth Cymru? OAQ53838
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli adnoddau naturiol? OAQ53841
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynd i'r afael â llygredd aer yng Ngorllewin De Cymru? OAQ53833
Felly, y cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Lynne Neagle.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan gymunedau lleol lais yn y system gynllunio? OAQ53865
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu? OAQ53832
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch a yw polisïau tai gwledig Llywodraeth Cymru yn addas i'r diben? OAQ53844
5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o'r adolygiad annibynnol o dai? OAQ53863
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru? OAQ53836
7. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi gwaith teg yng Nghymru? OAQ53854
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella cynhwysiant ariannol ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ53850
10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer llywodraeth leol? OAQ53853
11. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol Llywodraeth Cymru ar ddiwygio lesddeiliadaeth? OAQ53869
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ofyn gan David Rees.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyhoeddiad nad yw'r Comisiwn Ewropeaidd yn debygol o gymeradwyo'r fenter ar y cyd rhwng Tata Steel Cyf a ThyssenKrupp AG, ac felly bydd...
2. Ymhellach i'r datganiad ysgrifenedig ddoe, a wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gamgymeriad CThEM parthed cyfraddau treth incwm yng Nghymru? 311
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yng ngoleuni'r sylwadau a wnaed heddiw gan Rhodri Williams CF yn disgrifio'r ddeddfwriaeth fel un...
Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad 90 eiliad, a’r datganiad hwnnw gan Dai Lloyd.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar gynnal hyder yn y weithdrefn safonau, a dwi'n gofyn i'r Cadeirydd i gyflwyno ei datganiad—Jayne Bryant.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, a heddiw y Bil cerbydau cyhoeddus di-allyriad carbon. Dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud ei gynnig.
Symudwn ymlaen at eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, prydau ysgol iach, a galwaf ar Jenny Rathbone i wneud y cynnig.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth.
Felly, yr un bleidlais sydd gennym heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar oedolion ifanc sy'n ofalwyr. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os na dderbynnir y...
Trown yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Lynne Neagle i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. Lynne.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y galw am dai fforddiadwy?
Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd ei rhaglenni gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi ers dechrau datganoli?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia