Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 15 Mai 2019.
Diolch. Nid oeddwn wedi sylwi nad oedd yr Aelod yn bresennol, mae'n ddrwg gennyf.
Rwy'n bryderus iawn ynglŷn â cholli bioamrywiaeth yn fyd-eang. Mae'r ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gennym yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, fynd ati'n rhagweithiol i gynnal a gwella bioamrywiaeth drwy'r penderfyniadau a wnânt. Rydym hefyd yn darparu cymorth ariannol ac ymarferol i grwpiau cymunedol allu rhoi camau ar waith yn eu hardal leol.