Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 15 Mai 2019.
Yn dilyn ymgyrch effeithiol iawn gan drigolion lleol, cafodd cais am losgydd gwastraff-i-ynni yn Llansamlet ei wrthod, diolch byth, gan bwyllgor cynllunio cyngor Abertawe yr wythnos diwethaf. Fodd bynnag, daeth yn amlwg nad yw polisi cyfredol Llywodraeth Cymru ar losgyddion yn cyd-fynd â phryderon pobl leol ynglŷn â llygredd aer, lludw gwenwynig a charbon deuocsid, yn enwedig pan geir cais i'w codi yn agos at ardaloedd preswyl ac ysgolion. Rydym wedi clywed am bryderon tebyg yn y Barri, ac yn ddealladwy, mae pobl yn galw am dynhau polisi Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. A ydych yn cydnabod y pryderon hynny ac a yw Llywodraeth Cymru yn barod i ailystyried ei pholisi ar losgyddion er mwyn sicrhau bod ei pholisi rheoli gwastraff yn cyd-fynd ag atebion mwy cynaliadwy?