Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 15 Mai 2019.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ddiweddarach heddiw, rwy'n cefnogi cynnig Jenny Rathbone mewn perthynas â phrydau ysgol iach. Yn benodol, hoffwn weld cynnydd o ran faint o fwyd i ysgolion sy'n cael ei gaffael yn lleol. A gaf fi ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo awdurdodau lleol, fel Cyngor Sir Powys ac eraill, i gael gafael ar gynhwysion yn lleol, lle mae hynny'n bosibl, i wella'r gallu i olrhain bwyd, lleihau milltiredd bwyd a sicrhau y gall prydau ysgol fod yn fwy ffres, yn fwy blasus, yn fwy maethlon, yn well i'r amgylchedd ac yn well i'r economi leol?