Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 15 Mai 2019.
Weinidog, fel y gwyddoch, rwyf wedi sôn droeon am lygredd yn fy etholaeth yn sgil allyriadau diwydiannol. Un o'r agendâu yr hoffem edrych arnynt yw effaith gronnol unrhyw gynnig a gyflwynir ar gyfer unrhyw losgydd neu unrhyw agwedd arall, i edrych ar sut y mae hynny'n effeithio ar y gymuned yn ogystal â'r hyn sydd yno'n barod. A wnewch chi gyfarfod â'ch cyd-aelod o'r Cabinet, Julie James, i drafod sut y gellir edrych ar y rheolau cynllunio i ddangos bod yn rhaid ystyried effeithiau cronnol, fel ein bod yn edrych ar yr hyn sydd yno'n barod wrth ystyried unrhyw allyriadau diwydiannol, nid y cynnig unigol hwnnw'n unig?