Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 15 Mai 2019.
Dwi'n meddwl mai un peth sy'n bwysig o ran busnesau cynhyrchu bwyd yn y canolbarth, fel yn fy etholaeth i yn Ynys Môn, ydy sicrhau bod yna ddigon o eiddo addas ar gael ar gyfer busnesau sy'n dymuno datblygu yn y maes yma. Mae gen i lythyr sy'n barod i gael ei anfon atoch chi—mi wnaf i hynny heddiw—ynglŷn â'r egwyddor yma o sicrhau bod yna ddigon o eiddo ar gael. Ac mi fyddwn i'n croesawu gennych chi adduned y byddwch chi'n barod i weithio efo fi, fel Aelodau sy'n cynrychioli'r canolbarth, ar ffyrdd o sicrhau bod y math yna o eiddo ar gael. Oherwydd yn fy etholaeth i yn ddiweddar, er enghraifft, mae yna sawl busnes wedi tyfu yn y sector bwyd, lle dwi'n dal yn credu y byddai eiddo wedi'i ddarparu'n benodol ar eu cyfer nhw yn gweithio'n well.