Gwaith Teg

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 15 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:57, 15 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, ers blynyddoedd lawer, mae pobl ifanc wedi dioddef gwahaniaethu ym maes cyflogaeth. A fyddech yn croesawu ymrwymiad y Blaid Lafur i roi diwedd ar wahaniaethu yn erbyn pobl ifanc 16 i 18 oed er mwyn iddynt gael eu talu ar y gyfradd gywir ar gyfer y swydd yn hytrach na chyfradd y gellir ei phriodoli i'w hoedran, a rhoi diwedd ar yr anghyfiawnder maith y bu'n rhaid i bobl ifanc ei ddioddef yn y gweithle?