Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 15 Mai 2019.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Link, y rhwydwaith peiriannau arian parod, i helpu i sicrhau bod darpariaeth ddigonol o beiriannau arian am ddim yn cael eu cynnal yn lleol a rhwydwaith rheolaidd ar draws cymunedau ledled Cymru. Fel y dywedais wrth yr Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni, gallai Llywodraeth yr Aelod yn y fan acw gymryd camau i reoleiddio banciau i atal cymunedau rhag dioddef yn y modd hwn hefyd.