Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 15 Mai 2019.
Ni allaf ddweud wrtho'n union pryd, oherwydd nid yw'r wybodaeth honno gennyf wrth law, ond gwn ei fod cyn diwedd tymor yr haf. Os caf wybodaeth fwy penodol, byddaf yn sicr o roi gwybod i'r Aelod. Tasg benodol y grŵp gorchwyl a gorffen yw edrych ar y problemau penodol, ac mewn gwirionedd, mae fy nghyd-Aelod, Ken Skates, wedi bod â grŵp yn edrych ar ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu, ac rydym wedi cyfuno'r ddau er mwyn gwneud datganiad ar y cyd ar yr effaith gyffredinol, oherwydd nid mater trafnidiaeth yn unig ydyw, fel rydych yn gywir i ddweud; mater sy'n ymwneud â rheoli ystadau yw hwn, mae'n fater i ddatblygiadau tai sy'n cael eu cyflwyno, mae'n fater sy'n ymwneud â'r ffordd y rheolwn ddatblygiadau preswyl ac yn y blaen. Felly, mae'r tasglu yn edrych ar hynny, gan ein bod yn ymwybodol iawn o bryderon ei drigolion a thrigolion ar draws Cymru sy'n wynebu ffioedd rheoli pan oeddent yn credu eu bod wedi prynu eiddo rhydd-ddaliadol ac yn y blaen. Felly, rwy'n ei sicrhau ei fod yn fater sy'n ganolog i'n hystyriaethau.
Rydym yn edrych ar ddiwygio lesddaliadau'n ehangach hefyd. Fe wnaeth fy rhagflaenydd yn y portffolio hwn, Rebecca Evans, sefydlu is-grŵp penodol i edrych ar hyn a sicrhaodd gytundeb gan bob un o'r prif adeiladwyr Cymorth i Brynu na fyddent yn defnyddio Cymorth i Brynu i roi eiddo ar brydles ar y farchnad, ac mae hynny wedi bod yn effeithiol iawn. Ond mae'r rhannau eraill hyn o'r ystâd y mae angen inni roi sylw priodol iddynt er mwyn sicrhau nad oes gan bobl system gyfan o ffioedd nad oeddent wedi'i rhagweld ac nad oes ganddynt unrhyw reolaeth drosti wrth symud ymlaen, a sicrhau mewn gwirionedd fod yr awdurdod lleol yn meddu ar y gallu i fabwysiadu a chynnal y ffyrdd hyn yn y ffordd iawn gyda'r mathau cywir o farciau stryd a chyfleusterau ac yn y blaen, ac fel nad ydym yn gweld newid sydyn yn arwyneb y ffordd a'r mathau hynny o bethau wrth i chi fynd i mewn i'r ystâd.