Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 15 Mai 2019.
Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ddoe ar y mater hwn er mwyn sicrhau bod yr Aelodau'n ymwybodol o'r sefyllfa. Mae Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn nodi trethdalwyr Cymru ac yn cyhoeddi codau treth i gyflogwyr sy'n gyfrifol am ddefnyddio codau treth eu gweithwyr. Ni osodwyd y codau cywir gan rai cyflogwyr. Mae CThEM yn cynorthwyo cyflogwyr i unioni hyn.