Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 15 Mai 2019.
Diolch yn fawr iawn i chi, ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi'i drafod yn y Siambr cyn cyflwyno cyfraddau treth incwm Cymru, felly mae'n dda dod yn ôl ato eto. Gwnaeth Llywodraeth Cymru a CThEM lawer iawn o waith i sicrhau y gallem nodi pawb sy'n gymwys i dalu eu trethi yng Nghymru. Nid oes gennym reswm i awgrymu ein bod yn teimlo bod problem gyda'r gwaith o nodi'r unigolion a ddylai fod yn talu cyfraddau Cymreig o dreth incwm.