Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 15 Mai 2019.
Pasiodd y Cynulliad Ddeddf arloesol llesiant cenedlaethau'r dyfodol, y gyntaf o'i bath yn y byd, ac mae eisoes wedi cael effaith bwerus fel y gwelir yn yr enghreifftiau o'r ffordd y mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn hybu ffocws o'r newydd ar sut y gallwn wella ac ymgysylltu â phoblogaeth amrywiol Cymru. Rhoddaf rai enghreifftiau gwirioneddol bwysig i chi. Er enghraifft, o ran yr arweiniad cadarn sydd ei angen i ymgysylltu â'n cymunedau, y rhai yr effeithir arnynt gan benderfyniadau, a chan bolisïau: gwneud parc rhanbarthol y Cymoedd, er enghraifft, gwneud y dirwedd honno a threftadaeth y Cymoedd yn fwy hygyrch i bobl. Defnyddiasant egwyddorion y ffyrdd o weithio a'r amcanion llesiant yng nhasglu'r Cymoedd er mwyn sicrhau ein bod yn edrych ar hyn gan ddefnyddio'r enghreifftiau o Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Trafnidiaeth Cymru: sicrhau bod eu proses ar gyfer gwneud penderfyniadau'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd. Soniais ddoe, wrth ateb cwestiynau, fod ein polisi cynllunio cenedlaethol, y gwn fod yr Aelod bob amser yn tynnu sylw ato yn y Siambr hon, wedi'i ail-fframio gan ddefnyddio'r Ddeddf, ac mae'n rhoi lle canolog i greu lleoedd fel rhan o'r system gynllunio, gan sicrhau bod llesiant pobl yn ystyriaeth fel rhan o'r broses gynllunio. Yn wir, mae pobl yn disgwyl i Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wneud yr hyn y mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn anelu i'w wneud: cynghori, annog a hyrwyddo, cynnal adolygiadau, gwneud argymhellion, adrodd yn ôl a sicrhau hefyd ein bod yn cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n credu mai dyna ddiben allweddol Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.