Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 15 Mai 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n bles iawn i allu cyfrannu i'r ddadl yma ar oedolion ifanc sy'n ofalwyr, ac yn symud y gwelliant ar bwysigrwydd gofal seibiant i ofalwyr ifanc.
Wrth gwrs, mae Janet Finch-Saunders wedi disgrifio'r tirlun i ofalwyr ifanc yn dda iawn. Fe af i ddim i ymhelaethu ar hynny. Ond, hefyd dwi'n cyfrannu y prynhawn yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, achos ar hyn o bryd mae’r pwyllgor iechyd yn cynnal ymchwiliad i effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar ofalwyr. Mae’r pwyllgor wedi gorffen casglu tystiolaeth ac mae’r gwaith o lunio adroddiad wedi dechrau, gyda’r bwriad o’i gyhoeddi cyn toriad yr haf yma, felly nid ydym am achub y blaen ar unrhyw un o ganfyddiadau’r pwyllgor yn y ddadl yma.
Fodd bynnag, fel rhan o’r ymchwiliad yn gynharach eleni, ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc—sef 31 Ionawr eleni—neilltuodd y pwyllgor iechyd ddiwrnod i glywed barn gofalwyr ifanc ar ba mor dda y mae’r Ddeddf yn gweithio iddyn nhw. Gwnaethom ni siarad efo grŵp o ofalwyr ifanc rhwng 10 mlwydd oed a 22 mlwydd oed o bob cwr o Gymru, ac, yn y cyfraniad byr hwn, fe wnaf i amlinellu rhai o’r materion allweddol a glywodd y pwyllgor sy’n wynebu gofalwyr ifanc yng Nghymru heddiw.
Mae gan lawer o ofalwyr ifanc gyfrifoldebau sylweddol, o ran gofalu am y person sydd â salwch neu anabledd, ac o ran gofalu am aelodau eraill o’r teulu. Gall hyn gynnwys rhoi cymorth emosiynol yn ogystal â chymorth ag anghenion iechyd, symudedd a thasgau domestig. Mewn rhai achosion, gall hyn gymryd amser sylweddol, sy’n effeithio ar addysg gofalwyr ifanc yn ogystal â’u bywyd cymdeithasol a’u hamser hamdden. Mae effaith gofalu ar blant a phobl ifanc yn sylweddol, ac mae gofalwyr ifanc yn wynebu rhagolygon gwaeth na’u cyfoedion, er enghraifft o ran swyddi a chael mynediad at addysg uwch.
Mae nifer y gofalwyr ifanc yn cynyddu, a hynny law yn llaw efo cymhlethdod eu hanghenion. Mae cynlluniau i gefnogi gofalwyr ifanc yn chwarae rhan hanfodol wrth hwyluso gweithgareddau hamdden a chyfleoedd i ofalwyr ifanc gwrdd a rhannu eu profiadau a chefnogi ei gilydd. Maent yn cefnogi gofalwyr ifanc sydd, ar gyfartaledd, yn darparu rhwng 15 ac 20 awr o ofal bob wythnos.
Mae ymagwedd awdurdodau lleol tuag at asesu anghenion gofalwyr ifanc o dan y Ddeddf hefyd yn amrywio. Nid yw rhai gofalwyr ifanc wedi cael asesiad o'u hanghenion eu hunain, ac mae eraill wedi'u hasesu yn ddiarwybod iddyn nhw. Dylid asesu anghenion gofalwyr ifanc yng nghyd-destun y teulu, nid ar wahân. Mae tystiolaeth gan gyrff y trydydd sector yn awgrymu bod y camau sy'n cael eu cymryd i flaenoriaethu gofalwyr ifanc wedi gostwng yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Gall yr ysgol fod yn ffynhonnell bwysig o gymorth i ofalwyr ifanc. Mae cael cymorth da yn yr ysgol yn aml yn dibynnu ar ymrwymiad athro unigol, ac mae ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc a'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn aml yn wael ar draws yr ysgol gyfan. Nid yw llawer o ofalwyr ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn yr ysgol ac nid yw pob gofalwr ifanc yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw yn y lleoliad yma. Mae rhai gofalwyr ifanc yn amharod i ddweud eu bod yn ofalwyr yn yr ysgol rhag ofn iddynt wynebu stigma neu fwlio, yn enwedig os ydyn nhw'n gofalu am berson efo problemau iechyd meddwl. Dywed gofalwyr ifanc ei bod yn bwysig cael rhywun yn yr ysgol y maen nhw'n teimlo y gallant ymddiried ynddo ac sy'n deall yr heriau sy'n eu hwynebu nhw, fel pobl ifanc efo dyletswyddau gofalu am bobl eraill.
Rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno'r adroddiad pwysig hwn i'r Cynulliad yn ddiweddarach eleni. Diolch yn fawr.