Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 15 Mai 2019.
Ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n siomedig iawn ynglŷn â gwelliant y Llywodraeth. Gwn nad yw'n edrych fel fawr o newid ar yr olwg gyntaf, ond yr hyn a welaf fi yw enghraifft arall o rywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud dro ar ôl tro, sef defnyddio ei phwerau i 'ddisgwyl' yn hytrach na 'chyflawni'. Fe edrychais yn gyflym drwy Gofnod y Trafodion a gweld bod Gweinidogion wedi defnyddio'r gair 'disgwyl' 36 gwaith yn ystod sesiynau craffu yn 2019, ac rwy'n siŵr o fod wedi methu ambell un. Ond chi yw'r Llywodraeth. Nid oes raid i chi ddisgwyl; gallwch fynnu. Rwy'n teimlo'n rhwystredig iawn o wybod, yn bersonol ac ar ran etholwyr, y gallai'r Llywodraeth wneud rhywbeth, pan fydd cytundeb llwyr ar bolisi ar bob ochr yn y Siambr, ond ei bod yn dewis peidio. Felly, yn amlwg, rwyf wrth fy modd fod Ymddiriedolaeth y Gofalwyr yn helpu i gynghori'r Llywodraeth, ond nid yw hynny'n ymrwymiad i gyflwyno cerdyn adnabod yn gyson ledled Cymru. Gallwch hyrwyddo'r cerdyn adnabod hwn drwy bartneriaid rhwydwaith a chyfryngau cymdeithasol gymaint ag y mynnwch, ond os byddwch yn gadael hyn i ddisgresiwn cynghorau a'r grant cynnal refeniw, ni chaiff eich disgwyliadau mo'u bodloni.
Felly, Ddirprwy Weinidog, rwy'n mynd i fynd ymhellach na Janet Finch-Saunders heddiw a'ch gwahodd i dynnu eich gwelliant yn ôl a defnyddio'ch pŵer i greu'r ddyletswydd y galwn amdani yn ein cynnig, a gwneud hynny dros y gofalwyr ifanc. Credaf y gallwch ei wneud heb orfod troi at ddeddfwriaeth fawr. Rydym eisoes yn amheus ynghylch statudau blaenllaw sy'n tueddu i roi loes a fawr o lawenydd: yr holl ddisgwyliadau na chafodd eu gwireddu gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), ac yn awr o bosibl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), yn seiliedig ar yr hyn a glywsom heddiw. A ddylem ddathlu ein deddfwriaeth sy'n seiliedig ar hawliau, deddfwriaeth yr ydym wedi bod yn falch ohoni, os nad yw'n cynnig atebion cyraeddadwy i'n hetholwyr? Rwy'n ofni bod y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol wedi siomi gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc, er eu bod yn bendant iawn ym meddwl pob un ohonom pan basiwyd y ddeddfwriaeth honno gennym.
Felly, gadewch i ni droi at y pethau cadarnhaol. Mae'r wybodaeth ar y rhyngrwyd am wledydd eraill a sut y maent yn cydnabod ac yn cefnogi eu gofalwyr ifanc yn syndod o fach ac wedi'i chyfuno â gwybodaeth am ofalwyr yn gyffredinol. Wrth gwrs, ni fu'n bosibl imi ymchwilio i wefannau Llywodraeth pob gwlad ar y blaned yn y gwahanol ieithoedd, ond mae'n awgrymu, efallai, ein bod ni yn y DU, ac yng Nghymru yn enwedig, yn cydnabod ein dyled i ofalwyr ifanc yn fwy nag mewn rhannau eraill o'r byd, hyd yn oed os nad ydym yn diwallu eu hanghenion. Rydym o leiaf yn gwneud ymdrech.
Mae'r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth drwy feddygfeydd meddygon teulu, sy'n gwahodd ymwelwyr i holi eu hunain a ydynt yn ofalwyr, yn un weladwy iawn. Credaf fod Ymddiriedolaeth y Gofalwyr a'r gwahanol fudiadau lleol fel Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn fy rhanbarth i—sydd o dan fygythiad yn anffodus yn sgil tynnu arian yn ôl gan yr awdurdod lleol, penderfyniad sy'n peri dryswch—yn haeddu cydnabyddiaeth am y gwaith a wnânt, nid yn unig o ran codi ymwybyddiaeth ond o ran gofalu am ofalwyr. Ond rydym yn canolbwyntio ar ofalwyr ifanc yn y ddadl hon ac rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn gallu dweud rhywbeth wrthym am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i helpu plant a phobl ifanc i adnabod eu hunain fel gofalwyr.
Hoffwn orffen drwy atgoffa am ein grant dyfodol gofalwyr ifanc ein hunain. Roedd yn bolisi a ddatblygodd y Ceidwadwyr Cymreig ar ôl siarad yn uniongyrchol ag oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn Sir Gaerfyrddin ac Ymddiriedolaeth y Gofalwyr. Mae pob un ohonom yn chwilio am ffyrdd i gael gwared ar rwystrau sy'n atal pobl ifanc rhag adeiladu'r dyfodol gorau iddynt eu hunain, ac yn gryno, byddai'r grant hwn yn disodli unrhyw lwfans gofalwr a gollir gan bobl ifanc mewn addysg neu hyfforddiant ôl-16 amser llawn. Gwn fod yna systemau cymorth eraill, cronfeydd prifysgol a chronfeydd caledi, y grant oedolion dibynnol ar gyfer gofalwyr hŷn, ond nid oes dim y gallai oedolyn ifanc sy'n ofalwr ei gael fel hawl sy'n orfodadwy. Daw hynny â mi yn ôl at y pwynt yr oeddwn yn ei wneud yn gynharach am y cerdyn adnabod. Rwy'n credu bod y grant dyfodol yn bolisi da, yn cefnogi dyhead, yn amlwg, i ofalwyr ifanc, ond yn hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod—ystyriwch cymaint o fenywod ifanc sy'n ofalwyr. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych heibio i'r rhosglwm glas y tro hwn ac yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r syniad hwn.
Yn olaf, rwyf am gyfeirio at Goleg Penybont, sydd â hyrwyddwr coleg ar gyfer myfyrwyr sy'n ofalwyr ac yn hollbwysig, maent yn gyfrifol am hyfforddi staff. Rwy'n siŵr y bydd pawb ohonom yn ymwybodol, i ryw raddau, o'r lefelau cymysg o ymwybyddiaeth a geir yn y proffesiwn addysg o sut y gallant nodi pwy sy'n ofalwyr ifanc a'u cefnogi yn sgil hynny, felly rwy'n credu bod angen i Goleg Penybont ddangos sut y gellir ei wneud. Felly nid Coleg Gwent yn unig sy'n ei wneud; maent yn ei wneud yng Ngorllewin De Cymru hefyd. Diolch yn fawr iawn.