Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 15 Mai 2019.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ailadrodd cefnogaeth Llywodraeth Cymru i oedolion ifanc sy'n ofalwyr er mwyn sicrhau bod oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn cael pob cyfle i wireddu eu potensial mewn bywyd.
Credaf fod hon yn ddadl bwysig iawn. Mae llawer o gytundeb ar y cyfan yn y Siambr, ac mae'r Llywodraeth yn gefnogol iawn i ysbryd y cynnig. Fel y dywedodd Suzy Davies, mae hon yn ddadl radlon, ac rwy'n meddwl bod disgrifiad Oscar o rôl gofalwr wedi crisialu'r cyfan—mae'n waith clodwiw.
Cymru sydd â'r gyfran uchaf o ofalwyr o dan 18 oed o bob un o wledydd y DU. Yn ôl cyfrifiad 2011, mae 29,155 o bobl ifanc dan 25 oed yng Nghymru yn gofalu am eraill am o leiaf awr yr wythnos. Ac wrth gwrs, ni fydd angen cymorth ar bob un o'r rhain, ond mae angen i'r rheini sydd â chyfrifoldebau sylweddol gael eu cydnabod yn llawer gwell. Yn ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, fel y crybwyllodd siaradwyr eraill heddiw, cyflwynasom hawliau a dyletswyddau newydd i awdurdodau lleol hyrwyddo lles gofalwyr sydd angen cymorth.
Mae'r cynnig yn tynnu sylw'n briodol at bryderon ynghylch lles oedolion ifanc a'u gobaith o gyrraedd eu potensial llawn. Felly, gadewch i mi fynd i'r afael â'r hyn y mae'r cynnig yn ei ofyn gan Lywodraeth Cymru fesul un. Mae'n gofyn am nodi pwy sy'n ofalwyr yn gynnar, cymorth hygyrch ac atal ymddieithrio o addysg. Yng Nghymru, nid ydym yn casglu data cenedlaethol ar gyrhaeddiad addysgol gofalwyr ifanc ar hyn o bryd, felly nid yw'n bosibl dweud a yw cyrhaeddiad addysgol gofalwyr ifanc yn sylweddol is na'u cyfoedion, fel y mae'r cynnig yn awgrymu. Ond wedi dweud hynny, rydym yn llwyr gydnabod yr angen i nodi a chynorthwyo gofalwyr ifanc mewn addysg i gyflawni eu canlyniadau gorau. Mae gwaith yn mynd rhagddo mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar helpu ysgolion i adnabod a rhoi cymorth gwell i'w gofalwyr ifanc.
Yn yr un modd, nid ydym yn cydnabod yr awgrym fod gofalwyr ifanc dair gwaith yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, fel y dywed y cynnig, a chredaf efallai mai ffigurau o Loegr yw'r rhain. Yng Nghymru mae gennym ddull llwyddiannus o leihau nifer y plant ifanc sy'n NEET drwy ein fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid, ac ers ei lansio, mae nifer y rhai sy'n gadael yr ysgol nad ydynt yn mynd i addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru wedi mwy na haneru. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod yn llwyr fod gofalwyr ifanc yn wynebu mwy o risg o lawer o fod yn NEET, ac rydym yn awyddus iawn i'w cefnogi ac osgoi gweld hyn yn digwydd.
Mae'r cynnig hefyd yn sôn am gyflwyno cardiau adnabod i ofalwyr ifanc, ynghyd â dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi'r cerdyn ar waith, a chyfeiriais at welliant y Llywodraeth. Rydym eisoes yn gwneud cynnydd da iawn gyda'r model cenedlaethol newydd ar gyfer cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc, ac rwy'n gobeithio cyhoeddi y byddant yn cael eu cyflwyno'n raddol cyn diwedd y flwyddyn. Yr wythnos diwethaf, anfonais lythyr at holl arweinwyr awdurdodau lleol ynglŷn â'r cerdyn, ac rwyf eisoes wedi cael rhai ymatebion cadarnhaol iawn. Rydym yn disgwyl y byddant yn cymryd rhan lawn yn ein cynlluniau. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl i awgrymu bod angen i ni osod dyletswydd. Ni ellir deddfu ar gyfer y gwaith pwysig o ddatblygu manylion y dull o weithredu'r cerdyn adnabod. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.