Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 15 Mai 2019.
Y wybodaeth sydd gennym yw y bydd pob cyngor yn ei fabwysiadu, ac y bydd pob cyngor eisiau ei fabwysiadu. Ac rydym yn cychwyn o'r rhagdybiaeth honno, oherwydd credaf ei bod yn well inni weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ac mae gennyf bob ffydd y byddant yn gwneud hynny. A beth bynnag, ni ellir deddfu ar gyfer y gwaith pwysig o ddatblygu manylion y modd y caiff y cerdyn adnabod ei weithredu. I roi un enghraifft i chi, dywedodd un gofalwr ifanc wrthym yn ddiweddar ei fod yn mynd â'i frawd anabl i'r pwll nofio a'i fod wedi cael cerydd am ei fod o'r oedran anghywir ar gyfer defnyddio'r sleidiau. Pe bai ganddo fand garddwrn yn hytrach na cherdyn gallai ddynodi ei angen i hebrwng ei frawd. Nid yw'n bosibl i ddyletswydd gyfreithiol allu ymdrin â manylion o'r fath. Pe baem yn oedi cyn cyflwyno'r cerdyn adnabod a gynlluniwyd er mwyn cyflwyno deddfwriaeth, credaf y byddai gofalwyr ifanc yn teimlo eu bod wedi cael cam mawr, oherwydd bu cryn dipyn o ymgysylltu â gofalwyr ifanc ynglŷn â'r cerdyn adnabod. Ond os ceir tystiolaeth ar unrhyw adeg yn y dyfodol fod angen cael deddfwriaeth, hoffwn ddweud y byddwn yn sicr yn adolygu'r penderfyniad a wnaethom heddiw. Ond ar hyn o bryd, nid wyf yn gweld unrhyw reswm dros gael deddfwriaeth.
Mae'r cynnig hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru gynyddu ymwybyddiaeth a hyrwyddo lles gofalwyr. Fel y Gweinidog, byddaf yn sicrhau ein bod yn monitro effeithiolrwydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rydym wedi cynorthwyo'r trydydd sector i wella ymwybyddiaeth drwy ddyfarnu cyllid o dros £1.7 miliwn o'n cynllun grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy i Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, ac rydym yn parhau i ariannu'r Rhwydwaith Gofalwyr Ifanc.
Mae'r cynnig hefyd yn gofyn am gymorth i ofalwyr ifanc gael mynediad at addysg ôl-16, gan gynnwys drwy gynllun teithio rhatach. Felly, wrth inni edrych ar ddyfodol y cynllun cerdyn disgownt presennol i bobl ifanc a'r cynlluniau ehangach sydd gennym ar gyfer tocynnau teithio a thocynnau integredig ar draws y rhwydwaith, byddwn yn edrych yn ofalus iawn ar anghenion gofalwyr ifanc wrth gwrs.
Wedyn, i ystyried gwelliant Rhun, cytunwn fod gofal seibiant yn bwysig iawn, fel y gall gofalwyr ifanc gael seibiant oddi wrth ofalu, a gobeithiwn y byddwn yn edrych ar ofal seibiant mewn llawer o ffyrdd gwahanol i'r hyn a wnaethom yn y gorffennol, ond mae'r Llywodraeth yn sicr yn cefnogi'r gwelliant hwnnw.
Felly, hoffwn ailadrodd bod hon yn ddadl bwysig iawn. Ni ddylai neb yn ein cymuned gael ei adael ar ôl, ac mae oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn ysbrydoliaeth i'r gweddill ohonom. Credaf fod bron bawb a siaradodd heddiw wedi ein hysbrydoli â'r hyn a ddywedasant am ofalwyr ifanc, oherwydd maent yn arwain ac yn dangos inni sut i ofalu am ein teuluoedd a'n cymunedau. Felly, rwy'n eu canmol, ac rwy'n falch iawn o ddatgan fy nghefnogaeth i Wythnos y Gofalwyr, fel y mae eraill wedi'i wneud, yn ail wythnos mis Mehefin, ac rydym am ddathlu pob gofalwr yma yng Nghymru.
Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddasom ein tair blaenoriaeth genedlaethol: cefnogi bywyd ochr yn ochr â gofalu—mae mor bwysig i oedolion ifanc sy'n ofalwyr gael eu bywydau eu hunain; adnabod a chydnabod gofalwyr, a gobeithiaf y bydd y cerdyn adnabod i ofalwyr yn helpu i sicrhau hynny; a darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr. Ddirprwy Lywydd, rydym yn gwneud cynnydd ar gyflawni'r blaenoriaethau hyn, ond mae gennym lawer o waith i'w wneud. Gwn na allwn laesu dwylo, ac rwy'n credu bod y ddadl heddiw wedi ein helpu i sylweddoli beth sy'n rhaid i ni ei wneud. Diolch.