Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 21 Mai 2019.
Wnaf i ddim gofyn y cwestiwn o ba un a yw hynny mewn termau arian parod neu o ran cyfaint, ond y cwestiwn yr hoffwn i ei ofyn yw fy mod i'n credu os ydych chi eisiau rhoi contractau i gwmnïau lleol llai o faint, yna mae angen i faint y contract fod yn ddigon bach i gwmni lleol dendro. Os yw'r Prif Weinidog yn cytuno â'r datganiad hwnnw, a all ef amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod contractau'n cael eu hysgrifennu yn y fath fodd fel y gall y cwmnïau bach hyn dendro? Os yw'n anghytuno, a all ef amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau bod cwmnïau lleol, llai yn gallu tendro am gontractau?