Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 21 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:46, 21 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae disgwyliad oes yng Nghymru yn gostwng yn gynt nag mewn unrhyw wlad arall yn Ewrop. Ni yw'r unig wlad yn yr ynysoedd hyn lle mae tlodi plant yn cynyddu, ac yn nhri mis cyntaf eleni, ni oedd yr unig ran o'r DU lle y cynyddodd diweithdra. Fis yn ôl, yng nghynhadledd y Blaid Lafur, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Plaid Lafur Cymru bod

Cymru mewn sefyllfa well nag unrhyw ran arall o'r DU i ymdrin â Brexit.

Sut gall hynny fod yn wir pan fo Cymru, o dan eich arweinyddiaeth chi, yn gwneud mor wael hyd yn oed cyn i Brexit ddechrau?