1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 21 Mai 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. A allwch chi ddweud wrthym ni, Prif Weinidog, a yw lefelau carbon deuocsid yng Nghymru yn gostwng yn ddigon cyflym?
Mae lefelau carbon deuocsid yng Nghymru yn gostwng. Mae gennym ni gynlluniau a gyflwynwyd ac amserlenni a gyflwynwyd y byddwn ni'n parhau i'w hadolygu a'u cadw'n gyfredol. Rydym ni'n ystyried cyngor y pwyllgor ar y newid yn yr hinsawdd yng ngoleuni cytundeb Paris, ac, fel yr ydych chi wedi ei weld, mae'n awgrymu ein bod ni angen gostyngiad o 95 y cant i allyriadau o fewn 30 mlynedd. Roedd y cyngor, Llywydd, yn fanwl. Roedd dros 300 o dudalennau o gyngor. Mae'n iawn ein bod ni'n cymryd amser i'w ystyried, ond ein hymateb cyntaf i'r cyngor yw bod gostyngiadau o'r math hwnnw dros y cyfnod amser hwnnw yn angenrheidiol ac yn gyraeddadwy yng Nghymru.
Wel, yn amlwg, Prif Weinidog, nid yw allyriadau yn gostwng yn ddigon cyflym, ac mae'n amheus a fydd eich Llywodraeth yn cyrraedd y targed o ostyngiad o 27 y cant erbyn 2020, o gofio mai dim ond gostyngiad o 14 y cant a gyflawnwyd hyd yn hyn. Nawr, ers 2014, mae nifer amcangyfrifedig y marwolaethau yng Nghymru, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn gysylltiedig â llygredd aer, mewn gwirionedd wedi cynyddu o 1,320 yn 2014 i fwy na 2,000 yn 2017. Mewn dadl ddiweddar, dywedodd cyn-Weinidog yr amgylchedd bod y posibilrwydd o Ddeddf aer glân ar y bwrdd mewn gwirionedd er mwyn llenwi'r bylchau mewn deddfwriaeth. Nawr, nododd yr Athro Lewis o Brifysgol Abertawe bod y broses o gasglu gwybodaeth am lygredd aer yn anghyson a bod angen gwneud mwy i sicrhau bod y data a gesglir yn gywir ac yn gynrychioliadol o Gymru gyfan, oherwydd gall methu data hanfodol arwain at anwybyddu ac anghofio ardaloedd. O ystyried difrifoldeb y sefyllfa, a ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, ei bod hi'n amser nawr i ni gyflwyno Deddf aer glân, safoni'r broses o gasglu data a rhoi terfyn ar yr argyfwng iechyd y cyhoedd hwn?
Wel, Llywydd, gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â'r hyn y mae Paul Davies wedi ei ddweud am bwysigrwydd aer glân. Ddegawd ymlaen o bryd y dechreuodd y ddadl hon, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn fwy ymwybodol heddiw o'r effaith y gall llygredd aer ei chael ar iechyd y cyhoedd a'i effaith ar gyflyrau iechyd eraill. Felly, hoffwn gytuno ag ef am ddifrifoldeb y mater. Gallaf ddweud wrtho fy mod i eisoes wedi cael trafodaethau gyda Lesley Griffiths, fy nghyd-Weinidog, am Ddeddf aer glân, ac mae'r gwaith paratoi y tu mewn i Lywodraeth Cymru wedi dechrau meddwl am sut y gellid datblygu Deddf o'r fath. Wrth gwrs, byddwn ni eisiau siarad â'r holl arbenigwyr hynny a'r grwpiau buddiant hynny a fyddai'n dymuno cyfrannu at Ddeddf o'r fath, a byddai cael gwell data, cael data y gellir eu cymharu'n gywir, cael data sy'n caniatáu i chi olrhain newidiadau dros amser yn rhan angenrheidiol o unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth y gallem ni ei gyflwyno.
Wel, Prif Weinidog, rwy'n falch eich bod chi'n ystyried Deddf aer glân o ddifrif, ond byddwn yn awgrymu fy mod i'n meddwl ei bod hi'n bwysig nawr eich bod chi'n cyflwyno'r ddeddfwriaeth honno er mwyn mynd i'r afael â'r mater pwysig iawn hwn. Nawr, mae eich Llywodraeth wedi gosod targedau i haneru allyriadau carbon 2005 erbyn 2030, ond, yn amlwg, nid oes digon o gynnydd wedi ei wneud tuag at gyrraedd y targed penodol hwn, gan fod ffigurau gan Bwyllgor y DU ar y newid yn yr hinsawdd yn dangos bod allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi cynyddu gan 5 y cant yng Nghymru rhwng 2015 a 2016, o'i gymharu â gostyngiad o 11 y cant yn yr Alban. Nid yw llygredd aer wedi'i gyfyngu i'r ardaloedd targed yn unig. Yn Lloegr a'r Alban, mae cynnydd, yn amlwg, yn cael ei wneud gan ddilyn esiampl Berlin, wrth i ddinasoedd sy'n cynnwys Leeds a Birmingham gyflwyno cynlluniau ar gyfer parthau aer glân. Nawr, fel y gwyddoch, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr wedi galw am i'r parthau hyn gael eu cyflwyno yn Wrecsam, Abertawe, Casnewydd a Chaerdydd, ac mae'n siomedig bod Caerdydd wedi troi ei chefn ar ei chynlluniau ar gyfer parth. Mae hyn er gwaethaf y ffaith yr aethpwyd â Llywodraeth Cymru i'r Uchel Lys y llynedd ynghylch ei methiant i gyflwyno cynllun cadarn i wella ansawdd aer. Felly, Prif Weinidog, ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r gronfa ansawdd aer y llynedd, pa gynnydd sydd wedi ei wneud ar wella lefelau nitrogen deuocsid yn y pum ardal ffyrdd targed, a pha gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn chwarae eu rhan hefyd ac yn mynd i'r afael â llygredd aer yn eu hardaloedd eu hunain?
Llywydd, anghofiodd yr Aelod ddweud wrth y Siambr mai Llywodraeth y DU, wrth gwrs, a gafodd ei chymryd i'r Goruchaf Lys ynghylch y mater hwn oherwydd tor-cyfraith yn ymwneud â chyfraith Ewrop, ac roedd Llywodraeth Cymru yno oherwydd ein bod ni'n rhan o'r system honno yn y DU. Ond ni soniodd mai Llywodraeth y DU oedd yn y doc yn bennaf ar y diwrnod hwnnw. Nawr, fel mae'n digwydd, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn y mae wedi ei ddweud, ac rwy'n rhannu'r uchelgeisiau a gyflwynwyd ganddo i sicrhau ein bod ni'n gwneud mwy i sicrhau ein bod ni'n gadael etifeddiaeth i genedlaethau'r dyfodol o aer nad yw'n llygredig nad yw'n achosi'r anawsterau yr ydym ni'n fwy effro i'w creu erbyn hyn. O ran y pum ardal a nodwyd ganddo, mae gennym ni drefniadau monitro newydd ar waith yno. Maen nhw'n fwy sensitif i lefelau nitrogen deuocsid. Bydd yn fis Medi cyn i ni gael set ddata o'r math a argymhellwyd ganddo yn ei gwestiwn cynharach—dibynadwy a thros gyfnod o amser—a byddwn yn gwybod, ym mis Medi, canlyniad y monitro ychwanegol hwnnw. O ran y gwaith yr ydym ni'n ei wneud gydag awdurdodau lleol, rydym ni'n cydweithio'n agos ag awdurdodau lleol wrth gwrs, gan gynnwys Caerdydd, i sicrhau bod y camau y gallan nhw eu cymryd a'r camau y gallwn ni eu cymryd gyda'n gilydd yn cefnogi'r uchelgais a gyflwynwyd gan Paul Davies y prynhawn yma.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae disgwyliad oes yng Nghymru yn gostwng yn gynt nag mewn unrhyw wlad arall yn Ewrop. Ni yw'r unig wlad yn yr ynysoedd hyn lle mae tlodi plant yn cynyddu, ac yn nhri mis cyntaf eleni, ni oedd yr unig ran o'r DU lle y cynyddodd diweithdra. Fis yn ôl, yng nghynhadledd y Blaid Lafur, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Plaid Lafur Cymru bod
Cymru mewn sefyllfa well nag unrhyw ran arall o'r DU i ymdrin â Brexit.
Sut gall hynny fod yn wir pan fo Cymru, o dan eich arweinyddiaeth chi, yn gwneud mor wael hyd yn oed cyn i Brexit ddechrau?
Wel, Llywydd, nid oes gan yr Aelod fyth air da i'w ddweud dros Gymru. Nid yw byth yn colli cyfle i ddewis yr ystadegau mwyaf digalon y gall ddod o hyd iddyn nhw ac yna bychanu Cymru. Nid yn y Siambr hon yn unig y mae'n gwneud hyn; mae'n manteisio ar y cyfleoedd sydd ganddo i wneud hynny pan fydd ar gyfryngau darlledu cenedlaethol hefyd, ond ar yr ochr hon o'r Siambr rydym ni'n gwneud ein gorau i ganu clodydd Cymru. Rydym ni'n gwneud ein gorau i ddenu busnesau i ddod i Gymru. Nid yw ef byth yn colli cyfle i bortreadu Cymru fel y lle mwyaf digalon y mae wedi ei weld erioed. Mae'n gwneud hynny hyd yn oed pan nad yw'r ffigurau'n berthnasol o gwbl i'r hyn y mae'n ei ddweud. A phan fydd y Blaid Lafur, y mae ganddo ddiddordeb obsesiynol ynddi, Llywydd—rwyf i wedi cynnig anfon ceisiadau aelodaeth ato yn y gorffennol o ystyried pa mor aml ar lawr y Siambr y mae eisiau gofyn cwestiynau i mi am yr hyn y mae'r Blaid Lafur yn ei wneud. Yn ein cynhadledd, cyflwynwyd prosbectws ar gyfer Cymru gennym sy'n cynnig gobaith ar gyfer y dyfodol, ond sy'n dangos y ffordd y gallwn ni greu, hyd yn oed o dan amgylchiadau Brexit, economi sy'n ffynnu ac y gallwn ni greu cymdeithas lle mae pobl yn cael cyfleoedd i ffynnu. A byddai'n braf pe byddai'r Aelod, am unwaith, wrth ofyn cwestiynau yn y fan yma, yn rhoi ei ysgwydd wrth yr olwyn honno yn hytrach na cheisio'n barhaus i ddod o hyd i ffyrdd o fychanu Cymru.
Prif Weinidog, rydych chi'n aml yn hoff o ddweud pa mor siomedig ydych chi ynof i, ac mae'n rhaid i mi ddweud, ar sail y perfformiad yna, nid yw hanner mor siomedig ag yr wyf i ynoch chi. Yr wythnos hon, cyfeiriodd Hywel Ceri Jones, sydd wedi bod yn gynghorydd i'ch Llywodraeth, at y ffaith bod arweinydd eich plaid wedi bod yn fwriadol amwys o ran y cwestiwn o ail bleidlais gyhoeddus ar aelodaeth o'r UE fel ei reswm dros adael Llafur ac ymuno â Phlaid Cymru. O gofio mai Hywel oedd sylfaenydd rhaglen Erasmus, efallai ei bod yn addas i atgoffa ein hunain o eiriau'r dyn mawr ei hun pan ddywedodd, 'Gwirionedd yw gostyngeiddrwydd.' Felly, yn yr ysbryd hwnnw, cyn i ddegau—[Torri ar draws.] Cyn i ddegau o filoedd—[Torri ar draws.] Efallai eich bod chi'n chwerthin nawr; nid wyf i'n credu y byddwch chi'n chwerthin ddydd Sul. Felly, yn yr ysbryd hwnnw, cyn i ddegau o filoedd o gefnogwyr Llafur ddilyn Hywel gan droi eu cefnau arnoch chi yn y blwch pleidleisio, pam na wnewch chi gyfaddef yn ostyngedig, Prif Weinidog, o ran y cwestiwn o ail refferendwm, eich bod chi, trwy ddilyn yn slafaidd safbwynt Llafur Prydain—neu yn hytrach, yn absenoldeb un—wedi gwneud y penderfyniad anghywir?
Wel, efallai mai gwirionedd yw gostyngeiddrwydd, Llywydd, ond nid yw eironi wedi diflannu yn sicr. Os bu unigolyn erioed a ddylai fod wedi osgoi hwnna fel slogan, rwy'n credu ein bod ni wedi clywed ganddo ddwywaith y prynhawn yma erbyn hyn. Mae safbwynt fy mhlaid o ran ail refferendwm yn un sy'n adlewyrchu cymhlethdod y sefyllfa sy'n wynebu pobl Prydain. Mae'r diwrnod ar ddod, Llywydd, pan fydd yn rhaid i Dŷ'r Cyffredin, sef lle y bydd y penderfyniad hwn yn cael ei wneud wedi'r cyfan, gydio yn y mater hwnnw a phenderfynu'n derfynol pa un a yw'n barod i ofyn i bobl y Deyrnas Unedig bleidleisio ar y mater hwn eto. Credaf fod y diwrnod hwnnw'n dod yn gyflym iawn.
Mae dau arolwg barn yn y tri diwrnod diwethaf wedi rhoi eich plaid chi yn y trydydd safle yn yr etholiadau Ewropeaidd. Mae un wedi eich rhoi chi'n drydydd mewn etholiadau i'r Senedd hon ar y rhestr ranbarthol. Os byddwch chi'n dod yn drydydd ddydd Iau, dyma fydd y tro cyntaf i hyn ddigwydd i'r Blaid Lafur mewn etholiad Cymru gyfan ers blwyddyn sefydlu'r Blaid Lafur yn 1900, pan etholwyd Keir Hardie yn AS dros Ferthyr Tudful. A ydych chi'n teimlo rhyw synnwyr o gyfrifoldeb personol am y dyfnderoedd y mae eich plaid wedi plymio iddynt? Mae'n siŵr y bydd rhai yn gweld eich teyrngarwch personol i Jeremy Corbyn fel priodwedd clodwiw, ond bydd llawer mwy o'r farn ei fod ar draul teyrngarwch mwy, sef i bobl Cymru. Felly, i ddyfynnu ymadrodd arall y dylech chi fod yn gyfarwydd ag ef, gan mai chi wnaeth ei lunio, onid oedd hon efallai'n adeg am ddiferyn neu ddau o ddŵr coch clir?
Llywydd, mae fy niddordebau i bob amser yn ymwneud â'r hyn sy'n bwysig i bobl yng Nghymru. Rwy'n treulio pob dydd sydd gennyf i geisio gwneud popeth y gallaf i sicrhau bod dyfodol pobl yng Nghymru yn cael ei ddiogelu, a bod y rhagolygon gorau ar gael iddyn nhw. Rwy'n gwneud hynny, byddaf yn parhau i wneud hynny, a phan ddaw'r amser, byddaf yn cael fy meirniadu fel unrhyw un arall yn y Siambr hon, yn erbyn yr ymdrechion a llwyddiant yr ymdrechion hynny, pan ddaw pobl i wneud y dewis y byddan nhw'n ei wneud ynghylch pwy ddylai fod wrth y llyw yn y Siambr hon.
Arweinydd grŵp y Brexit Party, Mark Reckless.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n parchu canlyniad y refferendwm? [Torri ar draws.] Addawsoch y byddech chi'n gwneud hynny. [Torri ar draws.]
Ni all y Prif Weinidog glywed y cwestiwn sy'n cael ei ofyn. A allwn ni gael ychydig o dawelwch i glywed y cwestiwn, os gwelwch yn dda?
Prif Weinidog, a ydych chi'n parchu canlyniad y refferendwm? Addawsoch y byddech chi'n gwneud hynny, ond nid yw'n eglur eich bod chi. A wnaiff eich plaid ganiatáu i ni adael, neu a ydych chi eisiau ein gwneud ni aros? A ydych chi'n cytuno â'ch Gweinidog Brexit pan ddywedodd fod yn rhaid i'ch Llywodraeth gydbwyso'r penderfyniad a wnaeth pobl Cymru yn y refferendwm gyda'i ddealltwriaeth well ef o'r hyn y mae'n ei ddweud sydd er eu lles? Prif Weinidog, rydych chi'n wynebu eich prawf etholiadol cyntaf ddydd Iau, ond nid oes neb yn gwybod lle'r ydych chi'n sefyll ar Brexit neu pa un a ddylid gwneud i bobl bleidleisio eto. Pwy ydych chi'n disgwyl y bydd yn cael mandad gan bobl Cymru?
Llywydd, mae'n amlwg ei bod hi'n brynhawn am eironi ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Aelod yn gofyn i mi am barch a mandad. Dyma rywun y rhannais lwyfan ag ef yn ystod y cyfnod cyn etholiad diwethaf y Cynulliad pan anogodd y gynulleidfa o'n blaenau i gefnogi Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig. Cyn gynted ag iddo gyrraedd yma ar sail y tocyn hwnnw, fe hedfanodd ar draws i ochr arall y Siambr i fod yn gyw cog yn nyth y Blaid Geidwadol. Nawr mae'r aderyn wedi hedfan eto. Nid yw'r math hwn o ymagwedd beripatetig at wleidyddiaeth yn un sy'n golygu, yn fy marn i, ei fod mewn unrhyw sefyllfa i ofyn cwestiynau i bobl eraill yn y Siambr hon am barchu mandadau democrataidd. Mae Llywodraeth Cymru wedi parchu canlyniad y refferendwm erioed. Rydym ni wedi cydnabod o'r cychwyn y ffordd y mae pobl yng Nghymru wedi pleidleisio, ac rydym ni wedi canolbwyntio, fel yr ydym ni wedi ei ddweud gynifer o weithiau, ar ffurf yn hytrach na ffaith Brexit. Wrth gwrs roedd y Gweinidog Brexit yn iawn i ddweud bod yn rhaid i ni gydbwyso'r hyn a ddywedodd pobl yn y refferendwm hwnnw yn erbyn y niwed yr ydym ni'n gwybod fyddai'n dod i Gymru o'r math o Brexit y mae ef a'i blaid yn ei hyrwyddo erbyn hyn.
Mae'r Prif Weinidog yn credu ei fod yn gwybod yn well na phobl Cymru. Prif Weinidog, rwyf i wedi cefnogi Brexit yn gyson. Yn anffodus, dywedodd pob plaid eu bod yn mynd i barchu canlyniad y refferendwm. Yn anffodus, rydych chi'n gwneud popeth ond hynny. Rydych chi'n honni eich bod chi wedi parchu'r canlyniad o'r cychwyn, ond nid yw hynny'n wir. Cyhoeddwyd Papur Gwyn gennych yr oeddech wedi ei gytuno gyda Phlaid Cymru—sydd â llawer iawn i'w ddweud am bwy fydd yn dod yn drydydd ddydd Iau, ond ychydig iawn i'w ddweud am bwy allai ddod yn gyntaf—ac roedd yr hyn a ddywedasant gyda chi yn Brexit mewn enw yn unig, ond roeddech chi'n dal i ddweud eich bod chi eisiau parchu'r canlyniad a sicrhau'r Brexit hwnnw, er ei fod mewn enw yn unig.
Ers hynny, cyn gynted ag yr oeddech chi'n meddwl y gallech chi wneud hynny, dechreuasoch symud eich polisi i ddweud y dylid gorfodi pobl Cymru i bleidleisio eto, gan eu bod wedi gwneud camgymeriad. Nawr, efallai na ddywedasoch chi hynny mor eglur ag y gwnaeth Adam Price, neu mor eglur ag y gwnaeth Kirsty Williams, ac mae'n bosibl y gallai llawer o'r pleidleiswyr Llafur a bleidleisiodd i aros bleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol neu Blaid Cymru ddydd Iau o ganlyniad, ond mae'r bobl yr wyf i'n siarad â nhw yn clywed eich bod chi'n dweud, 'Roedden nhw'n anghywir—mae angen iddyn nhw bleidleisio eto', gan mai chi sy'n gwybod orau. Addawsoch weithredu'r canlyniad, addawsoch ei barchu. Rydych chi'n gwneud popeth ond hynny. A ydych chi'n deall pam mae hi'n amser bellach i newid gwleidyddiaeth am byth?
Rwy'n credu fy mod i wedi clywed yr Aelod yn defnyddio'r gair 'cysondeb' yn rhan gyntaf ei gwestiwn. Perfformiad pantomeim sy'n cael ei gynnig i ni, ond y broblem, Llywydd, yw bod yr Aelod yn llawer mwy na dihiryn pantomeim, a byddai'r prosbectws y mae'n ei gynnig i bobl yng Nghymru, heb os nac oni bai, yn peri i bobl Cymru fod yn waeth eu byd yn y dyfodol. Byddai eu diogelwch yn cael ei danseilio, byddai eu dylanwad yn y byd yn lleihau. Rwy'n falch o'r Papur Gwyn a gyhoeddwyd gennym ni gyda Phlaid Cymru gan ei fod wedi sefyll prawf amser. Ac yn wahanol i grwydradau’r aelod o amgylch y Siambr hon, mae'r pethau a ddywedasom bryd hynny am aelodaeth o undeb tollau, cyfranogiad llawn a dilyffethair mewn marchnad sengl, ymagwedd synhwyrol at fudo nad yw'n niweidio busnesau Cymru a gwasanaethau cyhoeddus—dyna'r pethau sydd wedi sefyll prawf amser. Dyna'r pethau sydd wedi bod yn gyson drwy gydol y ddadl hon. Ac efallai ei fod yn fwy cymhleth nag yr hoffai'r aelod ei gyfaddef, ond dyna'r pethau y byddwn ni'n parhau i'w cyfrannu at y ddadl hon. Dyna ein cysondeb, ac rwy'n credu ei fod yn gysondeb y bydd pobl yng Nghymru yn dod i'w gydnabod.