Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 21 Mai 2019.
Wel, efallai mai gwirionedd yw gostyngeiddrwydd, Llywydd, ond nid yw eironi wedi diflannu yn sicr. Os bu unigolyn erioed a ddylai fod wedi osgoi hwnna fel slogan, rwy'n credu ein bod ni wedi clywed ganddo ddwywaith y prynhawn yma erbyn hyn. Mae safbwynt fy mhlaid o ran ail refferendwm yn un sy'n adlewyrchu cymhlethdod y sefyllfa sy'n wynebu pobl Prydain. Mae'r diwrnod ar ddod, Llywydd, pan fydd yn rhaid i Dŷ'r Cyffredin, sef lle y bydd y penderfyniad hwn yn cael ei wneud wedi'r cyfan, gydio yn y mater hwnnw a phenderfynu'n derfynol pa un a yw'n barod i ofyn i bobl y Deyrnas Unedig bleidleisio ar y mater hwn eto. Credaf fod y diwrnod hwnnw'n dod yn gyflym iawn.