Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 21 Mai 2019.
Llywydd, mae fy niddordebau i bob amser yn ymwneud â'r hyn sy'n bwysig i bobl yng Nghymru. Rwy'n treulio pob dydd sydd gennyf i geisio gwneud popeth y gallaf i sicrhau bod dyfodol pobl yng Nghymru yn cael ei ddiogelu, a bod y rhagolygon gorau ar gael iddyn nhw. Rwy'n gwneud hynny, byddaf yn parhau i wneud hynny, a phan ddaw'r amser, byddaf yn cael fy meirniadu fel unrhyw un arall yn y Siambr hon, yn erbyn yr ymdrechion a llwyddiant yr ymdrechion hynny, pan ddaw pobl i wneud y dewis y byddan nhw'n ei wneud ynghylch pwy ddylai fod wrth y llyw yn y Siambr hon.