Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 21 Mai 2019.
Prif Weinidog, a ydych chi'n parchu canlyniad y refferendwm? Addawsoch y byddech chi'n gwneud hynny, ond nid yw'n eglur eich bod chi. A wnaiff eich plaid ganiatáu i ni adael, neu a ydych chi eisiau ein gwneud ni aros? A ydych chi'n cytuno â'ch Gweinidog Brexit pan ddywedodd fod yn rhaid i'ch Llywodraeth gydbwyso'r penderfyniad a wnaeth pobl Cymru yn y refferendwm gyda'i ddealltwriaeth well ef o'r hyn y mae'n ei ddweud sydd er eu lles? Prif Weinidog, rydych chi'n wynebu eich prawf etholiadol cyntaf ddydd Iau, ond nid oes neb yn gwybod lle'r ydych chi'n sefyll ar Brexit neu pa un a ddylid gwneud i bobl bleidleisio eto. Pwy ydych chi'n disgwyl y bydd yn cael mandad gan bobl Cymru?