Gwella Tir Amaethyddol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 21 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:14, 21 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Llywydd, rwy'n cytuno bod codi bwganod yn gywilyddus, ac mae'n gywilyddus pan gaiff ei ailadrodd yn y Siambr. Nid oes gan yr Aelod unrhyw wybodaeth am y gwaith a wneir gydag unigolion, ac ni ddylai ychwaith. Pam y mae e'n credu ei fod mewn sefyllfa i ddefnyddio data pobl unigol i wneud sylwadau ar lawr y Cynulliad hwn? [Torri ar draws.]