Brexit

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 21 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:19, 21 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Llywydd, rydym ni'n parhau i gael trafodaethau rheolaidd gyda Llywodraeth y DU ar faterion yn ymwneud â Brexit. Yn dilyn cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) a gynhaliwyd ar 9 Mai, cyfarfu Jeremy Miles â Stephen Barclay, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r UE, a chyfarfu Eluned Morgan â Liam Fox, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Masnach Ryngwladol. Cynhaliwyd y ddau gyfarfod hynny yr wythnos diwethaf a chynhaliwyd y ddau gyfarfod hynny yng Nghaerdydd.