Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 21 Mai 2019.
Cwnsler Cyffredinol, rwyf wedi cael rhywfaint o ohebiaeth gyda'r Ysgrifennydd Parhaol ynghylch y defnydd o drawsgrifiad o'r cwest ac, yn arbennig, cynghorwyr arbennig yn cyfarwyddo gweision sifil i edrych ar ddyddiaduron. Nawr, fy nealltwriaeth i, ac rwyf wedi cael cadarnhad o hynny gan y crwner, oedd na ddylid bod wedi defnyddio'r trawsgrifiad, heblaw at y diben penodol y gofynnwyd amdano. Yn amlwg, nid yr ohebiaeth ataf i oedd y diben y gofynnwyd amdano. A ydych yn credu, felly, pe bai'r trawsgrifiad hwnnw'n cael ei ddefnyddio'n anghywir, fod yr Ysgrifennydd Parhaol mewn perygl o fod mewn dirmyg llys?