Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 21 Mai 2019.
Wel, rwy'n gobeithio bod yr Aelod yn teimlo bod fy ymateb heddiw wedi bod yn agored ac yn dryloyw o ran rhoi'r union ffigwr. Nid wyf mewn sefyllfa i roi sylwadau ar y cais rhyddid gwybodaeth penodol y mae'r Aelod yn cyfeirio ato. Dydw i ddim yn rhagweld y bydd costau sylweddol eraill yn codi. Gwnaed y costau hyn gyda'r bwriad o leihau'r costau hynny, ac felly, er i gwnsler arweiniol gael ei chadw, cyfarwyddwyd hi gan adran gwasanaethau cyfreithiol Llywodraeth Cymru, ac fe fydd hyn wedi cael yr effaith o gadw'r costau hynny mor isel â phosibl.